|
Yng
Nghymru
Yn Llydaw
Yng
Nghymru, ...
Ar
ddechrau’r 20fed ganrif, cyfrannodd Ambrose Jones tuag at adfywiad
llenyddiaeth Gymraeg trwy bwysleisio bodolaeth rhyddiaith Gymraeg aruchel
ers canrifoedd. Ef oedd un o sefydlwyr cenedlaetholdeb Gymreig a gwelodd
yr iaith fel rhan bwysig o feddylfryd y bobl.
Wedi’r
Rhyfel Byd Cyntaf, ymwrthododd nifer o bobl â’r Gymraeg o fewn y cylch
teuluol, a chafodd rhai plant, oedd â rhieni rhugl eu Cymraeg, eu
haddysgu yn Saesneg. Un esboniad oedd y ffaith i’r Gymraeg gael ei
chysylltu â chymdeithas israddol. Er mwyn osgoi’r label hwn, roedd rhai
pobl am “ddod yn Saeson”.
Ym
1925, cafodd plaid genedlaethol Cymru, Plaid Cymru, ei sefydlu gan John
Saunders Lewis. Ymladdodd y blaid dros gydnabyddiaeth gan y pleidiau
Seisnig fod gan Gymru ei phroblemau a’i hanghenion ei hun nad oeddynt
bob tro yr un fath â rhai Lloegr. Gweithiodd hefyd er mwyn gwella
sefyllfa’r iaith Gymraeg yn y wlad.
Ym
1942, caniataodd Deddf Llysoedd Cymru i’r Gymraeg gael ei defnyddio mewn
llys. Cyn hynny, dim ond Saesneg a ddefnyddid. Serch hynny, roedd
sefyllfa’r Gymraeg wedi gwaethygu ac roedd nifer ei siaradwyr wedi
gostwng, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol ac yn agos i’r ffin â
Lloegr. Roedd hi felly’n angenrheidiol i weithredu er mwyn ail-gyflwyno
Cymraeg mewn ysgolion. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, caniataodd y Ddeddf
Addysg i awdurdodau lleol agor ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Ym
1947, o dan bwysau rhieni, agorwyd yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf yn
Llanelli ac ym 1957, agorwyd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yn y Rhyl.
Ym 1988, roedd yn rhaid i’r Gymraeg gael ei dysgu ym mhob ysgol yng
Nghymru.
Ym
1962, sefydlwyd “Cymdeithas yr Iaith Gymraeg”. Mae’n un o nifer o
sefydliadau cryf sy’n brwydro dros hawliau’r iaith Gymraeg.
Gweithredoedd y Gymdeithas yn enwedig a arweiniodd at Ddeddf yr Iaith
Gymraeg ym 1967, ac a ddiwygiwyd ym 1993. Mae’r ddeddf hon yn nodi bod
yn rhaid i gyrff cyhoeddus drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal pan yn
darparu gwasanaeth i’r cyhoedd. Rhoddodd yr hawl i siaradwyr Cymraeg
ddefnyddio’r Gymraeg mewn llys. Ac yn olaf, sefydlodd Fwrdd yr Iaith
Gymraeg, sy’n gorfod sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cadw o fewn y
gyfraith, ac mae’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
Ym
1982, cafodd y sianel deledu S4C (Sianel 4 Cymru) ei chreu. Mae’n cynnig
rhaglenni yn Gymraeg ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.
Ym
1999, cymerwyd cam mawr arall yng Nghymru pan etholwyd Cynulliad
Cenedlaethol gyda 60 aelod.
Pwy
sy’n siarad Cymraeg heddiw?
Ym
1891, roedd 54% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Yn 1911, dywedodd bron
i filiwn o bobl eu bod yn medru siarad Cymraeg. Ond ers y cyfrifiad hwn,
gostyngodd y nifer o siaradwyr Cymraeg yn raddol hyd 2001, am wahanol
resymau: symudiad poblogaeth o ardaloedd gwledig i ardaloedd diwydiannol;
defnydd o’r Saesneg yn y cyfryngau a’r byd hamdden; dirywiad yn y
nifer o bobl sy’n mynychu capeli, a fu’n ganolbwynt nifer o
weithgareddau traddodiadol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn 1991, serch hynny,
roedd mwy na 500,000 (18.7%) o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg ac roedd
nifer a chanran y bobl ifanc wedi cynyddu. Er enghraifft, ym 1981, roedd
17.8% o blant 5 i 9 oed yn siarad Cymraeg ond yn 1991 roedd y ffigwr yn
24.7%. Gwelwyd yr un cynnydd ymysg arddegolion (ffynonellau:
http.www.bwrdd-yr-iaith.org.uk).
Gellir esbonio’r cynnydd hwn oherwydd fod nifer o rieni (siaradwyr
Cymraeg neu beidio) yn dewis danfon eu plant i ysgol cyfrwng Cymraeg a’u
gwneud felly yn gwbl ddwy-ieithog.
Yn
ystod blwyddyn ysgol 2000-2001, aeth dros 25% o blant ysgol i un o’r 440
o ysgolion cyfrwng Cymraeg, nifer ohonynt yn dod o deuluoedd Saesneg eu
hiaith. Allan o 229 o ysgolion uwchradd yng Nghymru, mae 72 ohonynt yn
dysgu’r Gymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith tra bo’r 157 arall yn
ei dysgu fel ail iaith.
Yn
economaidd, sylweddolodd nifer o fusnesau fod dwy-ieithrwydd yn
ddefnyddiol, gan ddefnyddio’r Gymraeg er mwyn gwella ansawdd eu
gwasanaeth i gwsmeriaid, denu cwsmeriaid newydd a manteisio dros eu
cystadleuwyr uniaith Saesneg mewn rhai marchnadoedd. Mae rhai cwmniau,
megis Cwmni Iaith Cyf, yn cynnig cyngor i fusnesau ar sut i ddefnyddio’r
Gymraeg wrth farchnata, ac maent hefyd yn cynnig gwasanaethau cyfieithu.

Yn
Llydaw...
Ar
ddechrau’r 20fed ganrif roedd y Llydaweg yn ffasiynol unwaith eto mewn
meysydd diwylliannol, gwleidyddol ac athronyddol ac roedd pobl yn ceisio
gwahanu’r iaith oddi wrth yr eglwys. Serch hynny, nid oedd ysgolion, y
fyddin a symudiadau poblogaeth i ardaloedd diwydiannol o gymorth i
llewyrchiad yr iaith a defnyddiwyd y Ffrangeg fwyfwy. Yn 1923, gwaharddwyd
y defnydd o bob iaith heblaw am y Ffrangeg ar y radio.
Yn 1925, dywedodd Anatole de Monzic, y Gweinidog dros Addysg y
Cyhoedd, fod rhaid i’r Llydaweg ddiflannu er lles undod Ffrainc.
Datblygodd
rhai pleidiau gwleidyddol Llydaweg yn fwy radical a defnyddiwyd trais fel
modd i ddatgan eu dymuniadau. Ond
cydweithiodd lleiafrif bychan iawn gyda’r Natsiaid yn ystod yr ail Ryfel
Byd a defnyddiwyd hynny i danseilio a thaflu anfri ar yr holl sector
gwladgarol tan y chwedegau.
Cyhoeddwyd
cylchgronau safonol iawn gan rai academyddion Llydaweg fel Roparz Hémon
(1900-1978). Yn anffodus, roedd y Llydawyr yn cael anhawster i ddarllen ac
ysgrifennu’r iaith ac roedd yr iaith lenyddol yn rhwystr i eraill. Daeth
hi’n anfantais mewn bywyd bob dydd i beidio bod yn gallu siarad Ffrangeg.
Datblygodd teimladau o gywilydd a israddoldeb. Felly,
penderfynodd rai rhieni i addysgu eu plant drwy’r Ffrangeg ( tyfodd y
tueddiad hwn ar ôl yr Ail Rhyfel Byd) a gwelwyd dirywiad yn y Llydaweg
eto.
Yn
1941, tynnodd llywodraeth Vichy ardal Loi re-Atlantique allan o Lydaw. Ar
yr un pryd hybwyd y diwylliant Llydewig drwy hybu rhanbarthau ond heb
roi’r adnoddau angenrheidiol. Yn
yr un flwyddyn sefydlwyd sillafiad cyffredin.
Gellir defnyddio hwn gan y bedair tafodiaith o’r Llydaweg (Cornouaille,
Tregor, Leon a Vannetais) gan ei fod wedi ystyried prif nodweddion pob un
ohonynt.
Yn
1951, caniataodd deddf Dexionne y Llydaweg i gael ei ddysgu mewn ysgolion
gwirfoddol. Ond roedd y Llydaweg wedi dirywio oherwydd diffyg addysgu’r
iaith ac roedd rhaid ail-gyfoethogi’r iaith i’w gwaredu o eiriau
Ffrangeg. Bu rhaid troi
at ieithoedd Celtaidd eraill i edrych am hen eiriau ac er mwyn creu
geiriau newydd.
Yn
1977, agorwyd yr ysgol gynradd cyfrwng-Llydaweg gyntaf gan Diwan yn
Plourin-Ploudalmezeau. Ymhen tair blynedd roedd tair ar ddeg o’r
ysgolion hyn wedi eu sefydlu. Yn 1981, caniataodd François Mitterrand,
Arlywydd Ffrainc, i’r iaith gael ei dysgu ym Mhrifysgolion Rennes a
Brest. Ond ni sefydlwyd cwrs ymarfer dysgu Llydaweg tan 1985. Yn 1983,
agorwyd ysgolion dwyieithog. Er mwyn dysgu Llydaweg roedd rhaid cyhoeddi
llyfrau Llydaweg. Hefyd,
dechreuwyd gweld y Llydaweg ar arwyddion ffyrdd.
Yn 1992, mabwysiadodd Cyngor Ewrop y
Siarter ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol. Yn yr un flwyddyn
ychwanegwyd rheoliad 2 newydd i gyfansoddiad Ffrainc a nododd mai Ffrangeg
oedd iaith Ffrainc. Ar 24 Medi
1996, gwnaeth Cyngor y Dalaith ddatgan fod cydnabod ieithoedd lleiafrifol
yn anghyfansoddiadol.
Yn
1999 agorwyd swyddfa i’r Llydaweg (Ofis Ar Brezhoneg) er mwyn addasu’r
Llydaweg i’r byd cyfoes, astudio ei esblygiad a cheisio ei huno.
Pwy
sy’n siarad Llydaweg heddiw?
Ystyrir
Basse-Bretagne, y rhan orllewinol o Lydaw, fel
yr ardal lle y siaredir Llydaweg yn wreiddiol. Mae
tua 1.5 miliwn o bobl yn byw yno. Ar ddiwedd yr 20fed ganrif dangosodd pôl
y sefyllfa ganlynol yn Basse-Bretagne:
Roedd
tua 240 000 o siaradwyr Llydaweg dros 15 mlwydd oed (16% o’r boblogaeth).
Roedd
llai na 120 000 o bobl yn ei defnyddio yn rheolaidd.
Roedd
llai na 70 000 o bobl yn ei defnyddio bob dydd.
Gwnaeth
20 000 o bobl ddatgan eu bod yn gallu darllen ac ysgrifennu Llydaweg
yn hawdd.
Roedd
y nifer o siaradwyr Llydaweg a oedd o dan 20 mlwydd oed yn parhau yn isel
iawn.
Roedd
dros 2/3 o siaradwyr Llydaweg dros 60 mlwydd oed.
(Tarddiad:
pôl sefydliad y “TMO-Régions” yn 1997)
Yn
1863, roedd 86% o’r boblogaeth yn uniaith Llydaweg. Yn 1902 roedd y
ffigwr yn 60%. Yn 1952, roedd 67% yn ddwyieithog. Yn 1997, roedd 84% o’r
bobl yn gallu siarad Ffrangeg yn unig. (Tarddiad: catalog o arddangosfa
teithiol “Parlons du Breton” (siaradwn am Lydaweg).
Tra
roedd mwyafrif y bobl yn deall Llydaweg yn unig yng nghanol y 19eg ganrif
nid oedd mwyafrif yn deall yr iaith o gwbl erbyn diwedd yr 20fed ganrif.
Mewn llai na 150 o flynyddoedd mae’r sefyllfa wedi ei wirdroi.
Heddiw
nid yw mwyafrif y boblogaeth yn dod o gartrefi Llydaweg eu hiaith ond
gellid dysgu’r iaith. Roedd y diffyg cefnogaeth wedi hybu teuluoedd i
droi cefn ar y Llydaweg yn ystod y ganrif diwethaf.
Collwyd yr iaith mewn dwy genhedlaeth.
Serch hynny, mae ganddynt deyrngarwch i’r diwylliant Llydewig ac
mae fwyfwy yn dymuno darganfod eu gwreiddiau a ddygwyd oddi wrthynt ac
ailddarganfod diwylliant eu cyndeidiau. Nid
oes yr un diddordeb yn y Gallo, iaith Haute-Bretagne ers canrifoedd.
Yn
ystod y flwyddyn ysgol 1999-2000, astudiodd 20245 o blant Llydaweg yn
Llydaw, rhai ohonynt drwy gyrsiau byr o awr yr wythnos ac eraill trwy
ddulliau trochi. Mae ysgolion
Diwan yn dysgu 100% o’r pynciau trwy gyfrwng y Llydaweg. Mae’r
drefn Div Yezh (ysgolion y wladwriaeth) a Dihun (preifat Catholig) yn
ysgolion dwyieithog, hanner Llydaweg a hanner Ffrangeg.
Fel
bod niferoedd y plant sy’n mynd i ysgolion dwyieithog a Diwan yn tyfu
mae’r niferoedd sy’n dysgu Llydaweg yn lleihau yn enwedig ar y cyrsiau
byr. Mae rhai ysgolion hyd yn
oed yn penderfynu peidio cynnig y pwnc.
Mae’r
ysgolion sydd yn dysgu Llydaweg (fel y rhai sy’n dysgu ieithoedd
rhanbarthol eraill) yn cael anhawster i gael athrawon dwyieithog ac yn
gorfod dibynnu yn aml ar athrawon cyflenwi.
Mae angen mwy o gyrsiau Llydaweg ar yr holl gyrsiau ymarfer dysgu.
Mae
weithiau yn anodd i sefydlu dosbarthiadau Llydaweg oherwydd diffyg
myfyrwyr, diffyg athrawon ac anawsterau i gael caniatâd i sefydlu
dosbarth ac nid yw’r Drefn Addysg Genedlaethol yn hybu dwyieithrwydd.
Rhaid dibynnu ar gymdeithasau gwirfoddol sydd heb yr un adnoddau.
Byddai cefnogaeth cadarnhaol a hyrwyddo’r budd sydd i’w gael o
ddwyieithrwydd yn gwneud rhieni yn ymwybodol o bwysigrwydd ieithoedd
rhanbarthol.
Mae’n
rhaid i’r Llydaweg gael ei ddefnyddio fel iaith bob dydd os yw am
lewyrchu fel bod y rhai sydd yn ei siarad ac yn ei dysgu yn gallu ei
chlywed a’i hymarfer. Gwelir arwyddion ffyrdd dwyieithog erbyn hyn, mae
rhai banciau yn cynhyrchu sieciau Llydaweg ac mae ychydig o rhaglenni
Llydaweg ar gael ar y radio a’r teledu. Nid
oes disgwyl i gymdeithasau allu cyflawni llawer ymhob maes ac mae rhaid
i’r Wladwriaeth chwarae ei rhan drwy gydnabod ieithoedd rhanbarthol a
chadarnhau Siarter Ewrop ar Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol.
|