|
Hen-Lydaweg
a Hen Gymraeg: o’r 5ed ganrif
Llydaweg Canol a Chymraeg Canol: o’r 11eg ganrif
Llydaweg a Chymraeg cyfoes: o ddiwedd y 16eg ganrif
Hen
Lydaweg a Hen Gymraeg:
o’r
5ed ganrif
Dim
ond ychydig o gofnodion sydd gennym am Hen Gymraeg a Hen Lydaweg. Mae’r
defnydd o’r ieithoedd yn cael ei gadarnhau gan arysgrifau a nodiadau a
sylwadau sydd wedi eu hychwanegu at destunau Lladin a gan enwau pobl a
lleoedd.
Gwelir
rhai detholiadau o Hen Gymraeg mewn ffynonellau tebyg fel Historia
B’rrittonum gan Nennius yn yr 8fed ganrif.
Y
llawysgrif hynaf a wyddom amdano heddiw yn yr Hen Lydaweg yw traethawd dwy
dudalen ar feddyginiaeth sy’n dyddio o ddiwedd y 7fed ganrif.
Mae hwn wedi ei gadw’n ddiogel yn yr Iseldiroedd.
Ym
Mhrydain ynysig ac Armorica y mynachod a gyfieithodd a chopϊo’r
testunau. Fe wnaethon nhw, y beirdd a chefnogaeth yr uchelwyr chwarae rhan
bwysig yng nghadwraeth y diwylliant.
Yn
hanesyddol…
Ym
Mhrydain ynysig, arhosodd
Cymru yn annibynnol er fod bygythiadau oddi wrth yr Eingl-Sacsoniaid.
Rhwng 757 a 796 A.D., adeiladodd Offa, brenin Mersia, fur a chlawdd
i wahanu y Celtiaid a’r Sacsoniaid.
Yn
y 9fed ganrif, cadwodd Cymru, Cernyw a rhan o’r Alban eu hannibyniaeth.
Yng Nghymru, Gwynedd, yn y Gogledd, oedd y deyrnas gryfaf a
rheolwyd hon gan y Brenin Rhodri Mawr. Sicrhaodd ef undod gwleidyddol i
Gymru ond ar ôl ei farwolaeth yn 877 rhannwyd ei diroedd rhwng ei ddau
fab.
Rhwng
y 10fed a’r 11eg ganrif, unwyd Cymru yn rhannol sawl gwaith ond dim ond
Gruffydd ap Llywelyn a lwyddodd i uno’r wlad gyfan.
Ond roedd yr undod yn sigledig am fod y teyrnasoedd a orchfygwyd
bob amser yn barod i wrthryfela a chymryd eu hannibyniaeth yn ôl.
Yn ystod y cyfnod hwn roedd rhannau o Gymru yn barod i dalu
gwrogaeth i Loegr.
Ar
ddiwedd yr 11eg ganrif, roedd y Normaniaid, a oedd eisoes wedi gorchfygu
Lloegr, yn awyddus i orchfygu Cymru ond er iddynt gael peth llwyddiant yn
y Gogledd a’r Gorllewin, nid oeddent yn gallu gorchfygu’r wlad gyfan.
Yn
Llydaw yn ystod y cyfnod hwn
cafwyd cyfnodau o rhyfel a heddwch rhwng y Llydawyr a Ffrancwyr yn dilyn
eu gilydd. Yn 578,
amddiffynnodd Waroc lannau’r afon Vilaine, a oedd y ffîn rhwng
teyrnasoedd y Llydawyr a’r Ffrancwyr, yn erbyn y Ffrancwyr yn
llwyddiannus. Daeth yn arwr yn
y frwydr am annibyniaeth.
Yn
635, gwahoddodd Brenin Dagobert, Judicaël, Dug Domnonée (gogledd Llydaw),
i’w lys. Ar ôl ymgynghori
gyda chynrychiolwyr Cornouaille (de-orllewin Llydaw) a Bro Waroc (tiroedd
o amgylch Vannes, lle oedd canolfan Waroc) cyfarfu â Dagobert a
chydnabyddodd awdurdod y brenin Ffrengig yn enw holl bobl Llydaw.
Oherwydd hyn, sefydlwyd cyfnod hir o heddwch rhwng y ddwy deyrnas.
Yn
y 9fed ganrif, ymladdodd Nominoé i gadw Llydaw yn ddugaeth annibynnol
a churodd byddin Charles le Chauve ym Mrwydr Ballon (ger Redon) yn
845. Ar ôl ei farwolaeth
parhaodd ei fab Erispoé i frwydro am annibyniaeth. Ehangodd ei diriogaeth
a sefydlodd Llydaw fel teyrnas annibynnol.
Ond
roedd cyfnodau tywyllach i ddod i Lydaw gyda chyrhaeddiad y Normaniaid.
Llydaweg
Canol a Chymraeg Canol:
o’r 11eg ganrif.
Yn
annhebyg i’r Hen Gymraeg, mae digon o ddogfennau ysgrifenedig ar gael o
gyfnod Cymraeg Canol. Roedd
barddoniaeth yn bwysig iawn ac roedd yn aml yn sôn am fedr milwrol yr
uchelwyr a oedd yn noddi’r beirdd trwy gynnal eisteddfodau.
Bardd enwocaf y cyfnod yw Dafydd ap Gwilym a ysgrifennodd am natur
a chariad. Mae yn enwog tan
heddiw.
Dechreuodd
y gwahanol dafodieithau ymddangos. Ar
ôl y 15fed ganrif newidiodd yr eirfa a’r sillafu.
Siaredir Cymraeg drwy’r wlad ac er i rai Saeson a Ffrancwyr
ymgartrefi yno roedd mwyafrif y trigolion yn uniaith Gymraeg.
Roedd
yn stori wahanol yn Llydaw. Trodd
yr uchelwyr eu cefnau ar y Lydaweg. Ar
ôl dianc rhag y Normaniaid yn y 10fed ganrif a llochesu mewn gwledydd
cyfagos mabwysiadasant arferion ac iaith y wlad lle ymgartrefasant ynddo.
Pan ddychwelasant i Lydaw roedd ei disgynyddion wedi eu ffrengigo.
Yn
937 nid oedd y Lydaweg i’w chlywed yn Naoned, prif ddinas y wlad.
Daeth y llys yn gynyddol Ffrengig ac ymgiliodd y Lydaweg i’r
gorllewin. Sefydlogodd ffin yr
iaith yn y 12fed a’r 14ed ganrif ar linell oedd yn ymestyn o Dinan i’r
Brière.
Newidiodd
yr iaith Lydaweg o dan ddylanwad y Ffrangeg.
Ychwanegwyd peth geirfa, diflannodd rhai llythrennau mewn rhai
geiriau a symudodd yr acen. Tua
diwedd y 16eg sefydlwyd tafodieithau Kerne, Leon and Tregor (K,L,T).
Yn
hanesyddol...
Yng
Nghymru, elwodd Llywelyn ab
Iorwerth, tywysog Gwynedd (1195-1240), oddi wrth rhyfel gartref yn Lloegr
a gorchfygodd holl deyrnasoedd annibynnol Cymru.
Er mwyn sicrhau fod Cymru yn parhau fel gwlad unedig ar ôl ei
farwolaeth, gwnaeth ei fab Dafydd yn unig etifedd.
Ond syrthiodd y deyrnas oherwydd ymosodiadau o Loegr.
Adferodd
Llywelyn ap Gruffydd (1246-1282) undod y wlad a chymrodd y teitl Tywysog
Cymru yn 1258. Ailfeddianodd y
rhannau o Gymru a oedd yn nwylo Saeson a mynnodd fod brenin Lloegr,
Harri’r III, yn cydnabod ei deyrnas a’i deitl yng Nghytundeb Maldwyn
yn 1267.
Yn
1272, olynodd Edward I Harri’r III a dechreuodd ef ymgyrch o ymosodiadau
ar Gymru. Ar ôl pum mlynedd
roedd ei fyddinoedd yn ne-orllewin a chanolbarth Cymru.
Trechwyd Llywelyn a rhoddwyd y tiroedd yn ôl i’r perchenogion
blaenorol. Ym Mawrth 1282
gwrthryfelodd ei frawd Dafydd. Cefnogodd
Llywelyn ef ond bu Llywelyn farw mewn brwydr yng Nghilmeri o dan
amgylchiadau amheus. Trechwyd
Dafydd a dienyddiwyd ef gan y Saeson ym Mehefin 1283.
Gosodwyd rheolaeth Lloegr ar Gymru yn Statud Rhuddlan yn 1284.
Hon oedd y cam cyntaf i feddiannaeth lwyr.
Yng Nghymru adeiladodd y Saeson drefi o amgylch cestyll caerog a
gwaharddwyd y Cymry rhag cael mynediad i’r trefi heblaw ar fusnes.
Dilynwyd
hyn gan nifer o wrthryfeloedd mewn ymdrech i adennill annibyniaeth.
Yr enwocaf ohonynt oedd gwrthryfel Owain Glyndwr o 1400 tan 1410.
Fel pennaeth Glyndyfrdwy yn ne-orllewin Cymru adenillodd
annibyniaeth i Gymru. Serch
hynny, adenillodd y Saeson reolaeth o’r rhan fwyaf o Dde a Chanolbarth
Cymru yn 1408. Parhaodd
Glyndwr gyda’r wrthryfel ym mynyddoedd Gogledd Cymru tan 1410.
Ar
ôl hynny dechreuodd gormes wrth- Gymreig a chyda’r Ddeddf Uno yn 1536
cysylltwyd Cymru i Loegr. Gwnaethpwyd
Saesneg yr unig iaith swyddogol. Bwriad
Lloegr oedd sicrhau diflaniad yr iaith a’r diwylliant Cymraeg.
Yn
Llydaw
Gwnaethpwyd
Harri’r II o Plantagenet yn iarll Naoned am gynorthwyo Conan i ennill
grym yn 1156. Ar ôl cipio
Llydaw am y tro cyntaf, er sawl gwrthryfel, llwyddodd i osod ei fab
Geoffrey Plantagenet fel Dug Llydaw
Yn
1341, ar farwolaeth Jean III, taflwyd Llydaw i rhyfel olyniaeth a barodd
am 25 mlynedd. Roedd
brenhinoedd Ffrainc a Lloegr, a oedd wedi bod yn rhyfela ers 1337 (Y
Rhyfel Can Mlynedd), hefyd yn gweld y sefyllfa yn strategol diddorol.
Yn
1491, bu rhaid i Anne, Duges Llydaw, briodi Siarl VIII, Brenin Ffrainc ac,
ar ei farwolaeth ef, ei olynydd, Louis XII, yn 1499.
Sicrhaodd y briodas ddiweddaraf fod sefydliadau, hawliau a
breintiau yn cael eu gwarchod a sicrhawyd fod eu plentyn ieuengaf yn
olynydd i’r dugiaeth ( roedd yr hynaf yn olynydd i goron Ffrainc).
Yn
1532, cysylltwyd Llydaw yn llwyr i Ffrainc gyda’r Ddeddf Uno.
Cadwodd y ddeddf hon hawliau a breintiau cyllidol, cyfreithiol a
chrefyddol. Ni ellid codi
trethu yn Llydaw heb gytundeb Taleithiau Llydaw ac nid oedd yn bosibl cael
Llydawr o flaen llys barn tu allan i Lydaw.
Yn
1539 arwyddodd François I orchymyn Villers-Cotterets, a oedd yn mynnu fod
pob deddf swyddogol yn cael ei hysgrifennu yn Ffrangeg i warchod y
Ffrangeg oddi wrth y Lladin. Ond
parhaodd y clerigwyr Llydaweg i ddefnyddio’r Lladin.
Llydaweg
a Chymraeg Modern:
o ddiwedd
y 16eg ganrif
Roedd
hyn yn gyfnod o ddirywiad i’r Llydaweg a’r Gymraeg.
Roedd diwedd annibyniaeth ac arwyddo’r Deddfau Uno yn rhannol
gyfrifol am hyn achos yn raddol cefnodd yr uchelwyr ar eu hiaith a’u
diwylliant.
Ond
roedd digon o resymau eraill dros y dirywiad, a oedd yn union yr un fath
yng Nghymru ac yr ydoedd yn Llydaw. Roedd
Lloegr, fel Ffrainc, eisiau dinistrio’r diwylliant Celtaidd a oedd yn
cael eu hystyried ganddynt yn gyntefig ac yn anniddorol.
Ni
ddysgwyd un o’r ddwy iaith yn yr ysgolion a chyfrwng y dysgu oedd
Saesneg neu Ffrangeg gan y gwaharddwyd y Gymraeg a’r Llydaweg rhag cael
eu siarad yn yr ysgolion. O
ganol y 19eg ganrif defnyddiwyd teclyn yn erbyn y plant a oedd yn anufudd
i’r gwaharddiad hwn. Rhoddwyd
y teclyn (carreg fach, esgid fach bren neu darn o bren) i’r plentyn
cyntaf a glywyd yn siarad yn yr iaith waharddedig.
Yr unig ffordd yr oedd y plentyn hwnnw yn gallu cael gwared o’r
teclyn oedd trwy ei roi i blentyn arall a oedd wedi gwneud yr un “drygioni”.
Cosbwyd y plentyn a oedd â’r teclyn yn ei feddiant ar ddiwedd y
dydd. Yng Nghymru defnyddiwyd
darn o bren gyda’r llythrennau WN, am “Welsh Not”.
Gwisgwyd y pren o amgylch y gwddf.
Yn
hanesyddol...
Yng
Nghymru…
Pan
wahanodd Harri’r VIII oddi wrth Eglwys Rhufain penderfynodd gysylltu
Cymru a Lloegr mewn termau gwleidyddol, gan rhoi’r un hawliau i’r
Cymry ag oedd gan y Saeson. Gwnaeth
hyn hi’n haws i gryfhau’r ffiniau morwrol.
Penderfynodd rai uchelwyr Cymreig gefnu ar yr iaith a’r
diwylliant Cymraeg er mwyn cael y cyfle i gael eu dyrchafu a throi’n
Saeson. Ond nhw oedd
noddwyr y diwylliant Cymraeg a nawr daeth y diwylliant hwnnw yn eiddo’r
bobl gyffredin gan roi hunaniaeth iddynt.
Gyda’r
chwyldro diwydiannol yn y 19eg ganrif symudodd llawer o bobl o ardaloedd
gwledig i ardaloedd diwydiannol.
Daeth y Gymraeg, a oedd yn cael ei siarad yn ardaloedd gwledig rhan
fwyaf, i’r ddinas gyda hwy. Roedd
dau brif reswm am y rhain: yr iaith Gymraeg a’r anghydffurfiaeth
crefyddol a oedd yn gwrthod y sefydliad Anglicanaidd. Roedd yr awdurdodau
Saesneg yn credu y dylai’r ddau beth gael eu lladd.
Yn
1868, cyflwynwyd pleidleisio cudd.
Arweiniodd hyn at ethol cefnogwyr y diwylliant Cymraeg achos nid
oedd neb yn ofni dial dim mwy.
Yn
Llydaw…
Ar
ôl y ddeddf Uno dirywiodd y Lydaweg gan nad oedd yn cael ei ddysgu yn yr
ysgolion ac mi ddatblygodd i fod yn iaith lafar yn unig.
Diolch i’r clerigwyr a oedd yn parhau i’w defnyddio mewn
gwasanaethau ac fel cyfrwng dysgu, parhaodd yr iaith i gael ei defnyddio
gan y dosbarth gweithiol.
Yn
dilyn y chwyldro Ffrengig, Ffrangeg oedd unig iaith swyddogol y wlad.
Serch hynny, er mwyn sicrhau fod pawb yn gwybod am y Cyfansoddiad
a’r deddfau ac yn eu deall, cyfieithwyd hwy i bob iaith a siaredir yn
Ffrainc. O hynny ymlaen
datblygodd llywodraeth Ffrainc bolisïau a oedd yn elyniaethus i fodolaeth
yr ieithoedd hynny
Yn
y 19eg ganrif, sefydlwyd mudiad i adfywio’r Llydaweg.
Enghreifftiau o hyn oedd Le Gonidec (1775-1838), a ysgrifennodd
“Grammaire celto-bretonne” (Gramadeg Celto-Breton) a “Dictionnaire
Celto-Breton” (Geiriadur Celto-Breton), a De La Villemarqué
(1815-1895), gyda’i gasgliad o ganeuon poblogaidd o’r enw “Barzaz-Breiz”.
Tueddiad y cyfnod oedd i buro’r Llydaweg drwy ei gwaredu o eiriau
Ffrangeg ac atgyfodi hen eiriau a chreu rhai newydd lle bo’r angen.
Ar
ddiwedd y ganrif, gwnaeth deddfau Jules Ferry orchymyn ysgolion i fod yn
seciwlar, am ddim ac yn orfodol (1880-1883) a gorfodi Ffrangeg fel y
cyfrwng dysgu. Yn 1902
gwaharddodd Combes offeiriadon rhag cynnal gwasanaethau yn Llydaweg.
Collodd y rhai anufudd gefnogaeth ariannol a thynnwyd
cydnabyddiaeth y wladwriaeth oddi wrthynt.

|