Hanes

Gweithgareddau yn y ddwy dref sydd wedi gefeillio  

Gefeillio

Y trefi sydd 
wedi gefeillio

Diwylliant

Cysylltiadau

Lluniau

Llwybrau cerdded, cymdeithasau, crefydd.... gall pawb ddod o hyd i rywbeth iw wneud yn y ddwy dref gyfagos ar ardal ou cwmpas. Dyma rai enghreifftiau or hyn y gellir ei wneud:

 Yn Llandysul a'r Fro...                        Ym Mhlogoneg...

 

Yn Llandysul ar Fro, mae bod yn rhan o gymdeithas yn eich gwneud yn rhan or gymuned. Maer rhan fwyaf or trigolion yn aelodau o nifer o gymdeithasau ac mae llawer yn cwrdd droeon yn ystod yr wythnos, a weithiau ceir nifer o gyfarfodydd ar yr un noson. Ceir oddeutu deugain o gymdeithasau, ac fe gynhelir rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesneg.

Mae rhai cymdeithasau ar gyfer menywod yn unig, rhai ar gyfer dynion yn unig, ac mae eraill yn agored i bawb. Dyma ffordd i bobl gwrdd i gilydd mewn sgyrsiau neu giniawau er enghraifft. Ymysg y cymdeithasau hyn maer gymdeithas gefeillio, cymdeithasau chwaraeon (nofio, pl-droed, pl-rwyd, canŵio ayyb), clwb ar gyfer yr henoed, clwb ieuenctid, clwb pŵl, cymdeithasau pysgota, clwb ffermwyr ifanc, ayyb.

Mae gan Urdd Gobaith Cymru wersyll yn Llangrannog, ger y mr. Cyn belled ag y bon bosibl, cynhelir pob gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc ymarfer nifer o weithgareddau, megis nofio, sglefrolio, marchogaeth ceffylau, llethr sgo artiffisial, ceir bach, ac, yn bennaf oll, ymarfer eu Cymraeg. Bob blwyddyn, bydd plant o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys Plogonnec, yn aros yma am tua wythnos.

2002 ecolier.jpg (42371 bytes)

Plant o Blogonnec yn Llangrannog

Gan mai ardal Gymraeg ei hiaith yw Llandysul, mae hybu a gwarchod yr iaith yn holl bwysig. Maen bosibl dygur Gymraeg yn y pentref mewn cyrsiau dwys. Ir rheiny syn penderfynu dysgu, trefnir cyfarfodydd, lle bydd dysgwyr yn cwrdd siaradwyr Cymraeg rhugl (CYD). Cynhelir cyfarfodydd CYD yn Llangrannog, Llandysul a nifer o bentrefi eraill. Maen caniatu dysgwyr i fod yn fwy hyderus ac i ymarfer yr iaith y tu allan ir dosbarth a chwrdd phobl eraill, dysgwyr neu beidio.                   

Bob blwyddyn, cynhelir ffair Nadolig yn Llandysul, ynghŷd gŵyl fwyd a charnifal yn yr haf. Maer tri digwyddiad yn denu pobl ir ardal ar adegau gwahanol or flwyddyn.

food festival.jpg (30393 bytes) food festival 2.jpg (31617 bytes) food festival 3.jpg (31984 bytes)
Plant o ysgol Carreg Las Morris

Ar ddiwedd y 19eg ganrif, roedd yr ardal yn enwog am wehyddu gwln, a cheir hyd i nifer o felinau, er nad ywr rhan fwyaf ohonynt bellach yn felinau gwln. Mae un erbyn hyn yn amgueddfar diwydiant gwln (Drefach Felindre). Un yn unig syn parhau yn felin ddŵr syn dal i weithio (Rock Mills yng Nghapel Dewi). Maen ddiddorol ymweld r lle er mwyn darganfod y broses o drin gwln a gwehyddu. Maer amgueddfan rhad ac am ddim, fel pob un o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru.

muse de la laine Drefach.JPG (304002 bytes)

Drefach Felindre

 Ym maes crefydd, ceir nifer o wahanol enwadau crefyddol. Ym 1536, penderfynodd Harrir 8fed wahanu oddi wrth Eglwys Rufain a ffurfio Eglwys Loegr. Yn ddiweddarach, ymwahanodd diwygwyr eraill oddi wrth Eglwys Loegr a sefydlu eu heglwysi lleol eu hunain, gan ddod yn Annibynwyr. Sefydlwyd y capel Annibynol cyntaf yng Nghymru yn 1639. Nid ywr Annibynwyr yn credu mewn hierarchiaeth o fewn yr Eglwys y gynulleidfa (yr eglwys) syn rhedeg bywyd y capel (yr adeilad lle maer gynulleidfan cwrdd). 

glise_ll.jpg (37075 bytes)

chapelle Seion.JPG (32718 bytes)

Eglwys Tysul  

Capel Seion

Ymddangosodd rhaniadau eraill yn ddiweddarach. Credai rhai mewn bedyddio oedolion (y Bedyddwyr), credai eraill wedyn mai un Duw yn unig sydd ac nid Trindod (yr Undodwyr). Caiff yr Annibynwyr, yr Undodwyr ar Bedyddwyr eu grwpio gydai gilydd fel Anghydffurfwyr.

chapelle Baptistes.JPG (34592 bytes) chapelle Unitarian.JPG (42076 bytes)
CapelPenybont Capel Graig

Yn 1812, ymwahanodd grŵp arall oddi wrth yr Eglwys Anglicanaidd er mwyn ffurfio Eglwys Fethodistaidd. Yn 1820 daeth rhai Methodistiaid a oedd yn dilyn syniadau John Wesley yn Fethodistiaid Wesleaidd. Mae ganddynt ddiwinyddiaeth wahanol. Heddiw, maer ddau enwad yn rhan or Traddodiad Anghydffurfiol.

Ceir chwe enwad crefyddol sydd fwy neu lai yn wahanol: yr Eglwys Anglicanaidd ar Anghydffurfwyr, syn cynnwys Annibynwyr, Undodiaid, Bedyddwyr, Methodistiaid a Methodistiaid Wesleaidd. Yn ychwanegol at y gwahaniaethau hyn, ceir hefyd gapeli lle maer gwasanaeth crefyddol yn Gymraeg ac eraill lle maer gwasanaeth yn Saesneg. Yn yr Eglwys yn Llandysul cynhelir gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, ar adegau gwahanol. Maer Annibynwyr ar Bedyddwyr yn Llandysul yn cynnal eu gwasanaethau yn Gymraeg. Nid yw pob enwad crefyddol yn bresennol yn Llandysul ar Fro yn awr, ond roedd y rhan fwyaf yn bodoli tan yn weddol ddiweddar.

Ym Mhlogonnec, gall pobl ymuno tua thrideg o gymdeithasau. Maer pwyllgor gefeillio yn un ohonynt. Hefyd, gellir cymryd rhan mewn nifer o chwaraeon (cerdded, beicio, pl droed, pl fasged, tenis bwrdd, cadwn heini ...) a bod yn rhan or Clwb Ieuenctid, Clwb yr Henoed, cymdeithasau Rhieni myfyrwyr, clwb hela, Clwb yr Hen Filwyr a mwy.

   

halle_de_sport.JPG (36848 bytes)

Canolfan hamdden

Mae ULAMIR e Bro Glazik (syn uno gweithgareddau lleol mewn ardal wledig) hefyd yn chwarae rhan ym mywyd y gymuned. Dyma gymdeithas rhyng-gymunedol a grwyd ym 1982. Maer gymdeithas ar waith mewn pum tref syn ffinio Quimper: Plomelin, Pluguffan, Plons, Guengat a Plogonnec. Ei nod yw:

   Helpu cymdeithasau gydau gweithgareddau
  
Archwilio anghenion cymdeithasol ac addysgol a hysbysur gwasanaethau cyhoeddus beth sydd eu hangen
  
Trefnu a chynnal gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol ym mhob ardal.

Mae rhai gweithgareddau yn cael eu trefnu ym mhob tref a gall unrhyw un gymryd rhan ynddynt. Dyma rai enghreifftiau or gweithgareddau a drefnir gan ULAMIR ym Mhlogonnec:

  Clwb cyfrifiadureg
  
Yoga
  
Clwb Natur
  
Clwb Treftadaeth
  
Darlithiau

Mae rhai gweithgareddau wediu trefnun arbennig ar gyfer pobl ifanc, yn enwedig yn ystod gwyliaur ysgol ee yn y pwll nofio, yn y ganolfan sglefrio, gweithgareddau chwaraeon, gwersyll weithio ayb.

Diwylliant Llydewig. Bob blwyddyn, maer pwyllgor gefeillio yn trefnu noson o fwyta crepes a Fest-noz i ddilyn. Mae myfyrwyr dosbarth dawns Llydewig Plogonnec yn cael cyfle i berfformior hyn y maent wedii ddysgu.

1997 crpes.jpg (30737 bytes)                    1999 fest noz.jpg (39934 bytes)

Crpes                                            Fest-noz

Mae gan Blogonnec dreftadaeth gyfoethog. Mae saith capel a llawer o galfarau a chroesau yn y dref. Cafodd y rhan fwyaf eu hadeiladau rhwng y 15 ganrif ar 17 ganrif, a oedd yn adeg lewyrchus ir dref. Maer holl gapelin rhan or Eglwys Gatholig Rufeinig. Cynhelir gwasanaeth crefyddol yn yr eglwys blwyfol yn unig Saint-Thurien heblaw am y gwleddau, syn cael eu trefnu bob blwyddyn ym mhob capel. Mae cymdeithas yn gyfrifol am bob un ohonynt.

seznec_1.jpg (37410 bytes)

St_Pierre.JPG (37645 bytes)

St_Albin chapelle.JPG (35493 bytes)

St_Thelau_2.JPG (44549 bytes)

Capel St-Denis

Capel St-Pierre

Capel St-Albin

Capel St-Thelau

 

La_Lorette.JPG (35078 bytes)

St_Thegonnec.JPG (43974 bytes)

Eglise_paroissiale.JPG (30659 bytes)

Capel Notre Dame de la Lorette

Capel St-Thegonneg

Eglwys St-Thurien


Bob chwe blynedd, mae taith gerdded or enw Tromenie yn digwydd. Maer llwybr 7.5 milltir yn mynd trwy drefi Locronan, Plonevez-Porzay, Qumnven a Plogonnec. Maer daith hon er cof am y daith yr oedd Sant-Ronan yn ei wneud bob wythnos. Caiff cabanau eu codi ar hyd y llwybr syn cynrychioli capeli pob tref. Bob blwyddyn, maer Tromenie lleiaf o 2.5 milltir yn coffu taith ddyddiol Sant-Ronan.

Ir rhai syn hoffi cerdded, mae sawl llwybr yng nghoedwig Nevet. Gan ddechrau ger capel Sant-Thelau, mae modd cerdded i fyny trwy goedwig Duc i le or enw La Motte sef y man uchaf yn y dref. Or fan hon, gellir gweld bae Douarnenez, ac wrth gerdded i lawr y ffordd ceir golygfa banoramig o ganol Plogonnec.

 

 

                                      Cymraeg                      Brezhoneg                     English                       Franais