Diwylliant Cymru a
 diwylliant Llydaw 

 

Gefeillio

Y trefi sydd
wedi gefeillio

Y Gymraeg- Llydaweg

Diwylliant

Cysylltiadau

Lluniau

 

Y ddawns:  

Yng Nghymru...

Ceir tri grŵp o ddawnsfeydd traddodiadol: dawns y glocsen, dawnsfeydd y ffair, a dawnsfeydd y llys.                        

 Caiff dawns y glocsen ei dawnsio fel arfer gyda chlocsiau ac ysgub. Gall y dynion gystadlu â’i gilydd, gan arddangos eu sgiliau dawnsio ac acrobateg trawiadol.

 Gwneir dawnsfeydd y ffair i gyfeiliant fiolin fel arfer. Maent yn ddawnsfeydd rhyddmig. Mae Rali Twm Siôn a Gŵyl Ifan yn ddwy esiampl o’r rhain.

 Gwneir dawnsfeydd y llys i gyfeiliant telyn fel arfer. Maent yn fwy ffurfiol. Cynhwysir Rîl Llanofer, Meillionen a Rhisiart Annwyl yn y grŵp yma.

 Gall y piano, y ffliwt a’r acordion fod yn gyfeiliant i’r dawnsfeydd hefyd.

 Nid oes llawer o lefydd i ddysgu’r dawnsfeydd hyn. Dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf, maent wedi dod yn boblogaidd eto, yn enwedig ymysg y bobl ifanc. Bydd cymdeithasau weithiau’n trefnu Twmpathau (nosweithiau dawns), lle gall y rhai sy’n cymryd rhan ddysgu sut i ddawnsio. Mae’r grwpiau dawns hefyd yn arddanos eu dawnsio ac yn cystadlu mewn Eisteddfodau. Ceir gwahanol fathau o Eisteddfodau – y rhai lleol a’r rhai cenedlaethol. Mae’r Urdd yn trefnu un ar gyfer pobl ifanc. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer pawb. Ceir gŵyliau hefyd ar gyfer canu a dawnsio (Yr Ŵyl Gerdd Dant).

 Cynhyrchir y defnydd ar gyfer y dillad ym melinau’r ardal. Maen nhw’n parhau i fod fwy neu lai yn union fel y rhai a gafwyd mewn canrifoedd a fu ac maent yn amrywio gyda’r dawnsfeydd.

 

 Yn Llydaw...

O’r blaen, priodasau oedd y prif gyfle ar gyfer dawnsio yng nghefn gwlad Llydaw. Roedd gan bob rhan o Lydaw eu dawnsfeydd eu hun ac roedd pobl yn cwrdd i ddawnsio am oriau. Yn ystod y pedwardegau, wedi’r rhyfel, cafodd rhai “cercles celtiques” (grŵp o ddawnswyr) a bagadous (grŵp o gerddoriaeth draddodiadol) eu creu. Heddiw, caiff mwy a mwy eu denu i’r fest-noz (noson o ddawnsio Llydewig) a’r fest-deiz (os yw’n digwydd yn ystod y dydd), dechreuwyr neu beidio, pobl ifanc neu hŷn.                                    

 Mae’r fest-noz a’r fest-deiz yn rhoi cyfle i bobl ddawnsio a rhannu eu hoffter a’u diddordeb mewn dawnsio Llydewig. Mae’n drawiadol o hyd i weld y bobl yn heidio i’r llawr dawnsio (yn aml, iard fferm syml) wrth i nodyn gyntaf y gerddoriaeth gael ei chwarae. Ceir amryw i fest-noz yn yr haf, yn enwedig yng Ngorllewin Llydaw, lle caiff un ei chynnal bron bob nos.

 Mae’r “cercles celtiques” yn cymryd rhan mewn nifer o’r cystadlaethau yn ystod y gŵyliau (Gŵyl Cornouaille yn Quimper , Gŵyl de la Saint-Loup er enghraifft), ac yn arddangos dawnsfeydd Llydewig. Maent yn gwisgo yr un math o wisgoedd ag yn y dyddiau a fu ac mae rhai merched yn brodio eu gwisgoedd eu hunain. Mae’r gwisgoedd yn amrywio yn ôl rhannau gwahanol o Lydaw.

 Mae’r gavotte, yr An dro, y Laridé, y Plinn, y rond de Saint-Vincent, yn rhai enghreifftiau o ddawnsfeydd poblogaidd. Mae gan rai dawnsfeydd amrywiolion sy’n dod o wahanol rannau o Lydaw (gavotte des montagnes, gavotte de l’Aven…).

 

Cerddoriaeth a chanu:

Yng Nghymru...

Mae canu’n rhan bwysig o ddiwylliant Cymru. Yn gynnar yn yr ysgol gynradd, bydd plant yn dysgu i ganu ac mae corau yn niferus. Maent yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn Eisteddfodau ac yn canu gyda’i gilydd yn y capeli.

 Ym maes cerddoriaeth, mae’r delyn Geltaidd yn dod yn ôl i ffasiwn. Weithiau caiff ei chwarae wrth i farddoniaeth gael ei adrodd. Ceir grwpiau o gerddoriaeth draddodiadol, yn ogystal â grwpiau roc neu techno sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg.

 Mae’r Ŵyl Gerdd Dant, a gynhelir yn flynyddol, yn ŵyl o ganu lleisiol, adrodd a dawnsio. Fel gyda’r Eisteddfod, mae’n symud i leoliad gwahanol bob blwyddyn.

 

 Yn Llydaw...

Yn ogystal â dawns, mae cerddoriaeth Lydewig yn profi adfywiad ac mae nifer o’r bagadou yn cystadlu yn ogystal â chwarae yn ystod gŵyliau ac mewn fest-noz.

 Mae’r bagadou yn cynnwys bombardes, binious (bagbib) ac offerynnau taro ond weithiau ceir hefyd ffidlau, telynau, gitâr. Y Penn Soner yw’r prif sonneur ac ef sy’n arwain y sonneurs eraill (sonneur yw rhywun sy’n chwarae bombarde neu biniou).

 Fe fywiogir y fest-noz a’r fest-deiz gan rai offerynnwyr eraill sy’n cymryd eu tro drwy’r nos: y sonneurs, cantorion kan ha diskan a grwpiau traddodiadol. Mae’r sonneurs yn chwarae offerynnau chwyth, yn aml y bombarde neu’r biniou. Dull o ganu yw’r Kan ha diskan. Mae’r kaner yn dechrau’r frawddeg ar ei ben ei hun. Mae’r diskaner yn ei gorffen gyda’r kaner cyn ei hail-adrodd ar ei ben ei hun. Mae’r kaner yna’n gorffen y frawddeg gyda’r diskaner cyn dechrau ar y frawddeg nesaf.

 Daeth y grwpiau traddodiadol yn gynyddol boblogaidd yn y saithdegau. Fe ddefnyddient offerynnau traddodiadol. Heddiw, mae nifer ohonynt yn ychwanegu gitarau a syntheseisyddion. Mae rhai grwpiau yn parhau i chwarae cerddoriaeth draddodiadol, tra bo rhai eraill yn chwarae mwy o “roc Llydewig” neu gymysgedd o gerddoriaeth y byd.

 

Y farddoniaeth:

Yng Nghymru...

Dechreuodd barddoniaeth yng Nghymru tua’r 6ed ganrif. Mae’n rhan bwysig iawn o ddiwylliant Cymru, ac yn enwedig yr Eisteddfod. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, rhoddir dwy brif wobr am farddoniaeth : y gadair a’r goron. Maent yn ddwy gystadleuaeth wahanol.

Er mwyn cystadlu am y gadair, mae’n rhaid dilyn rheolau caeth iawn. Gellir dysgu’r rheolau yma mewn dosbarthiadau ledled Cymru – yng Nghaerdydd neu Gaerfyrddin, er enghraifft. Dim ond tua deg o bobl sy’n cystadlu am y wobr. Ar gyfer y goron, mae tua pedwar deg o bobl yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae’r rheolau yn llai caeth ac mae’r farddoniaeth yn fwy agored. Bob blwyddyn, fe osodir testun. Mae’n rhaid i’r un sydd am gystadlu ddilyn y testun hwn.

Trefnir “Stomp” weithiau yn ystod y nos. Mae gan bob bardd rai munudau i ddarllen ei gerdd o flaen cynulleidfa, a nhw sy’n beiriniadu. Nhw sy’n penderfynu pwy fydd yn y rownd nesaf.

 

 Yn Llydaw ...

Hyd yr 19eg ganrif, roedd barddoniaeth yn Llydaw yn eiddo i’r bobl gyffredin – fe ddechreuodd arweinwyr Llydaw roi’r gorau i’r iaith yn y 10fed ganrif. Cafodd y farddoniaeth ei throsglwyddo ar lafar. Mae’r caneuon poblogaidd a gasglwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif gan de La Villemarqué yn y ‘Barzaz Breiz’ yn enghreifftiau o’r math yma o farddoniaeth.

Mewn barddoniaeth Lydewig, ceir odlau nid yn unig ar ddiwedd pennill, ond hefyd yn fewnol, fel mewn barddoniaeth Gymraeg.

Heddiw, mae mynegiant farddonol yn parhau yn bresennol yn Llydaw. Yn anffodus nid yw’n wybyddus gan nifer o bobl gan nad yw i’w chlywed ar y radio na’r teledu, nac i’w gweld mewn papur newydd. Fe ysgrifennir barddoniaeth yn y Lydaweg a’r Ffrangeg.

 

                                      Cymraeg                      Brezhoneg                     English                       Français