|

|
 |
Gweithgareddau
|
|
Hanes
y ddwy dref sydd wedi gefeillio |
|
Gefeillio
Y
trefi sydd
wedi gefeillio
Y
Gymraeg- Llydaweg
Diwylliant
Cysylltiadau
Lluniau

|
Hanes
Llandysul |
Hanes
Plogoneg |
|
Diolch
i
John Davies ac i André Bozec
Hanes
Llandysul a'r Fro
gan
John Davies
|
|
Mae
gan Landysul a’r Fro hanes cyfoethog iawn. Mae rhai manylion yn
gysylltiedig â Hanes Cymru.
Cafodd
Vortigern, sef y cyntaf i wahodd y Saeson i ymgartrefi ym Mhrydain yn y 5
ganrif, ei yrru i’r gorllewin gan y Sacsoniaid a ddaeth i’r wlad hon
tua’r flwyddyn 440 CC. Cafodd Vortigern ei ddal mewn bryngaer a elwir
byth ers hynny’n Craig Gwrtheyrn, sef y mynydd pigfain a welir yr ochr
arall i’r afon ym mhlwyf Llanfihangel-ar-arth. Ymprydiodd Germanus am
dri diwrnod a thair noson, ac yng nghanol y drydedd noson, daeth tân
o’r nefoedd a llosgwyd y gaer. Lladdwyd Vortigern a’i holl wragedd.
Dyma
chwedl werin nodweddiadol o Gymru, ond mae’r stori hon yn hen iawn, iawn
gan ei bod wedi’i hysgrifennu gan un o haneswyr cynharaf Prydain –
Nennius – yn yr 8 ganrif.
|
|
Hen
eglwys hardd Llandysul – Sant Tysul – yw’r adeilad hynaf yn y
pentref. Mae’n dyddio o’r 13 ganrif ond mae’n sefyll ar sylfaen
hynafol a ganfuwyd gan Sant Tysul yn 6 ganrif. Roedd Tysul yn fab i Corun,
a oedd yn fab i Geredig a benderfynodd alw’r deyrnas ar ôl. Caiff y
deyrnas ei hadnabod fel sir Ceredigion erbyn hyn. Roedd gan Geredig fab
arall o’r enw Sant, sef tad ein Nawddsant Dewi. Felly, roedd Tysul a
Dewi yn gefndryd cyfan. Roedd Ceredig ei hun yn fab i Cunedda, brenin
Caeredin, a ddaeth i’r de i symud y Gwyddelod o Wynedd. Yn sgil hyn,
sefydlwyd llinach frenhinol Gogledd Cymru.
Yn
festri’r côr yr Eglwys, gwelir casgliad o gerrig arysgrifedig o’r
Gristnogaeth gynnar. Ymhlith y cerrig hyn y mae “Carreg Velfor” er cof
am “Velvoria, merch Brohomaglus”. Mae arysgrif ddwyieithog - Lladin ac
Ogham (Gwyddelig hynafol) - ar y garreg, sy’n dystiolaeth bod Gwyddelod
wedi bod yn byw yma ar ryw adeg.
|
Eglwys Tysul

Carreg Velvor |
|
Dewiswyd
Owain Glyndwr fel Brenin Cymru am fod ei dad, Gruffydd Fychan, yn dywysog
Powys (canolbarth Cymru) a’i fam, Elen, yn dywysoges y Deheubarth (De
Cymru). Roedd Elen, ei chwaer a’i brodyr yn ddisgynyddion uniongyrchol
Rhys ap Tewdwr, brenin olaf De Cymru gyfan. Dynion Llandysul oedd yn
cyntaf i ymuno ag Owain mewn rhyfel ym 1400, ac felly penderfynodd
Henri’r 4ydd fynd â thir Owain o gwmpas Llandysul oddi arno.
Bu
Elen a Gruffydd Fychan yn arglwyddi ar Landysul pan fu farw brawd Elen,
Owain ap Thomas ap Llywelyn, a’i hewythr, Owain ap Llywelyn. Roedd y
ddau yn gyd-noddwyr eglwys Llandysul, ac fe wnaethant gynnal llysoedd yn y
dref. Felly, mae yna reswm da i gredu bod Llys Owain Glyndwr a’i
ddisgynyddion ymhlith adeiladau hynaf Llandysul.
|
|
Yn
ystod Rhyfel Cartref y Saeson, erbyn 1644, roedd y fyddin Frenhinol yn
amddiffyn Ceredigion yn erbyn y fyddin Seneddol, a oresgynnodd Sir
Gaerfyrddin a
Sir Benfro. Roedd gan yr hen font yn Llandysul tri bwa, ac fe
wnaeth y fyddin Frenhinol dynnu’r bwa ar ochr Pont‑Tyweli i lawr
er mwyn rhwystro’r fyddin Seneddol rhag croesi i mewn i Geredigion.
|
 |
|
Yn
y blynddoedd cynnar, dathlwyd Dydd Calan trwy chwarae gêm o’r enw
Cnapan – pêl droed – a defnyddiwyd porth yr eglwysi yn Llanwennog a
Llandysul fel pyst gôl. Roedd y gêm wedi goroesi ar ôl hen ryfel, ac
erbyn dechrau’r 19 ganrif roedd un person wed cael ei ladd a nifer
wedi’u hanafu wrth chwarae’r gêm. Pan newidiwyd dyddiad y Flwyddyn
Newydd ym 1752 yn sgil y calendr Gregoraidd newydd, penderfynodd pobl yr
ardal barhau i chwarae’r gêm bêl droed ar ddyddiad yr Hen Galan, sef
12 Ionawr.
Nid
oedd pobl yn poeni’n ormodol am y farwolaeth, yr anafiadau a natur
afreolus y gêm. Erbyn 1833, penderfynodd ficer Llandysul nad oedd
chwarae’r gêm rhwng dwy eglwys yn addas. Penderfynodd sefydlu
cystadleuaeth ysgrythur rhwng y plwyfi lleol, lle’r oedd timau yn
cynrychioli bob plwyf yn yr ardal ac yn cystadlu trwy adrodd rhannau o’r
ysgrythur ar eu cof. Mae’r gystadleuaeth hon yn para tan heddiw ar 12
Ionawr ac yn unigryw yng Nghymru.
|
|
Ar
ddiwedd y 19 ganrif a dechrau’r 20 ganrif, roedd Diwydiant Gwlân
Cymru’n hollbwysig yn yr ardal gan bod afonydd a ffermydd defaid yn agos
iawn. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn gweithio yn y diwydiant gwehyddu h.y.
mewn melinau, trwy fynd ati i wehyddu neu trwy werthu dillad. Erbyn 1871,
roedd 104 o wehyddion arbenigol yn yr ardal, ac roedd y rhai mwyaf
llwyddiannus yn cyflogi un neu ddau wehydd i’w helpu. Cafodd y
rheilffyrdd cyntaf eu gosod yn ail hanner yr 19 ganrif, ac roedd hyn yn
golygu ei bod yn haws i bobl gyrraedd dyffryn diwydiannol De Cymru.
|
Drefach-Felindre |
|
Heddiw,
mae Llandysul yn enwog oherwydd afon Teifi sy’n rhedeg trwy’r pentref.
Mae llawer o bobl o bob rhan o Brydain yn dod i’r ardal i bysgota neu i
gan
io.

|
 |
|
Hanes
Plogoneg gan
André Bozec
|
|
Nid
ydym yn gallu dod o hyd i unrhyw sôn am fodolaeth Plogonnec cyn 1204.
Mae’r gweddillion cynhanesyddol (carneddi yn Kervolzet, maen hir yr eglwys,
a charreg dderwyddol Kerioret) a’r ffyrdd Rhufeinig yn awgrymu bod pobl
wedi bod yn byw yn ardal Plogonnec dros y blynyddoedd, ond nid oes gennym
dystiolaeth o fodolaeth aneddiadau.
|
|
|
Mae
dogfen ddyddiedig 21 Ebrill 1204, sy’n rhoi’r plwyf i Saint Ronan, yn
dangos bodolaeth Plogonnec am y tro cyntaf. Mae’r enw yn dod o’r gair
Ploe, sy’n golygu plwyf mewn Llydaweg, a Saint-Conec neu Saint-Theogonnec.
Yr adeg honno, roedd plwyf Plogonnec yn dibynnu ar lywodraethwyr y Nevet ar
gyfer trefn gyhoeddus.
|
|
Yn
ystod cyfnod y Dadeni, roedd lliain yn cael ei gynhyrchu’n fasnachol ym
Mhogonnec ac roedd hyn yn sicrhau ffyniant yr ardal. Adeiladwyd y rhan fwyaf
o eglwysi Plogonnec yr adeg honno, ynghyd â phlastai Bonescat, Rubihan,
Garland a Seznec. Mae’r adeiladau hyn wedi cael eu hestyn dros y ddwy
ganrif ddiwethaf.
|

Capel
St-Pierre
|
|
Er
bod yr adeg hon yn llewyrchus iawn, ni lwyddwyd i osgoi gwrthryfel y
Rhyfel Crefyddol (War of the League) rhwng 1588 a 1598 a’r gwrthryfel yn
erbyn y papur stampio (The Red Cap) ym 1665. Un o’r rhesymau am y
gwrthryfel hwn oedd y trethi newydd a grëwyd, er enghraifft y tâl am
bapur stampio ar gyfer tystysgrifau cyfreithiol. Ym Mhlogonnec, ymosodwyd
ar gastell Le Motte a lladdwyd ei warchodlu cyn y gwnaeth Rene yr Ail
ailsefydlu trefn.
Ym
1789, yn ystod y Chwyldro Ffrengig, etholwyd offeiriad Plogonnec
Jean-Marie Leissègues o Rosaven yn ail ddirprwy yr is-glerigwyr
Cornouaille yn yr “Etats Généraux”, ac wedyn yn aelod o Gynulliad yr
Etholaeth. Fodd bynnag, gwrthododd i dyngu llw i’r ‘Republic One and
Indivisible’ ac ymfudodd i’r Almaen ym 1792.
|
|
Yn
yr 19 ganrif, roedd diweithdra a nifer y plant a oedd yn marw yn dal i fod
yn uchel ym Mhlogonnec. Aeth pobl ati i wneud gwaith cynnal a chadw ar y
ffyrdd ac i adeiladu ysgolion. Yn y diwydiant amaethyddiaeth, dechreuwyd
defnyddio ceffylau yn lle ych i gynaeafu
d, rhyg, barlys, ceirch, cywarch a thatws, sef y prif gnydau
a dyfwyd. Ar ddiwedd y ganrif
hon, roedd dyfodiad y trên yn golygu cyfle newydd i feithrin cysylltiad â’r
byd y tu allan i’r ardal.
|
Gorsaf
Pont-Queau
|
|
Ar
ôl i’r eglwys ar Wladwriaeth rannu ar 9 Rhagfyr 1905, bu’n rhaid
llunio rhestr o Eiddo’r
Eglwys cyn ei roi yng ngofal cymdeithasau diwylliannol. Ym Mhlogonnec, fel
ym mhob rhan o Lydaw, bu’n rhaid llunio’r rhestr o dan warchodaeth y
fyddin a’r heddlu. Yn wir, bu’r boblogaeth yn ceisio rhwystro’r
gwaith am fod y gyfraith hon yn eu digio. Cafodd cwch gwenyn ei daflu at
yr heddlu wrth iddynt baratoi i ymrafael â’r dyrfa.
|
|
Cafodd
y ddau ryfel byd effaith fawr ar boblogaeth Plogonnec. Yn ystod y Rhyfel Byd
Cyntaf, cafodd 169 o bobl y pentref eu lladd sef tua 5% o’r boblogaeth, a
chafodd nifer fawr eu hanafu. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dioddefodd y
pentref yn enbyd yn sgil deiliadaeth yr Almaenwyr o 1943 a gweithredoedd y tîm
anrhaith. Ar ôl i fyddin yr Almaen adael, llwyddodd Plogonnec i osgoi
canlyniadau dychrynllyd dicter yr Almaenwyr pan ymosodwyd ar filwr Almaeneg
yn yr orsaf drenau yn Geungat.
Casglodd y milwyr Almaenaidd y boblogaeth i ganol Guengat i’w llosgi yn yr
eglwys. Ond, ar ôl trafodaethau helaeth, penderfynodd yr Almaenwyr i
roi’r gorau i hyn a gadael y pentref gyda gwystlon.
|

Carreg
goffa |
|
Ar
ôl y rhyfel, bu llawer o newidiadau. Datblygwyd trydan yng nghefn gwlad, ac
aethpwyd at i ddechrau cynhyrchu ar gyfer cwsmeriaid ac ailgrwpio’r eiddo
amaethyddol. Hefyd, aethpwyd ati i wastatáu’r llethrau ac i addasu’r
dirwedd. Adeiladwyd tai ac aeth llawer o bobl i weithio yn y trefi cyfagos.
|
|
Yn
y 1990’au, adeiladwyd llawer o adeiladau newydd: canolfannau hamdden,
ysgol wladol, llyfrgell, swyddfa bost, ac yn fwy diweddar adeiladwyd neuadd
ar gyfer y cymdeithasau. Mae’r stad newydd o dai sy’n cael ei hadeiladu
yn gyfle da i bobl newydd ymgartrefi yn y pentref.
|

Neuadd
|
|
 |
|