|
Mae
Llandysul a'r fro yn cynnwys Llandysul a'r pentrefi cyfagos, ond nid oes
ffiniau penodol. Felly, mae'n amhosibl pennu nifer y trigolion na maint yr
ardal. Mae pentref Llandysul wedi'i leoli yng Ngheredigion, yng Ngorllewin
Cymru, tua 16 milltir o Gaerfyrddin a 35 milltir o Aberystwyth. Mae
Llandysul yn golygu "eglwys (llan) Sant Tysul".
Mae'r
Afon Teifi, sy'n rhedeg trwy Landysul, yn dynodi'r ffin rhwng Ceredigion a
Sir Gaerfyrddin. Mae'r ffin hon yn un arbennig gan ei bod yn rhoi Llandysul
yng Ngheredigion a Phont-Tyweli yng Nghaerfyrddin, er bod y ddau le yn cael
eu hystyried fel un pentref. Gyda’i gilydd, mae tua 1300 o bobl yn byw yn
Llandysul a Phont-Tyweli.

Teifi
Pont-Tyweli
Y cyngor cymuned a'r cyngor sir
sy'n gyfrifol am y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r boblogaeth yn ethol y
cynghorwyr am 4 blynedd, ac mae pob un ohonynt yn cynrychioli ardal arbennig.
Mae'r cyngor sir yn fwy pwerus na'r cyngor cymuned. Mae'r cyngor sir yn
gyfrifol am bethau fel cynllunio tref, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd,
twristiaeth, ysgolion, chwaraeon a thrafnidiaeth gyhoeddus; tra bod y cyngor
cymuned yn gyfrifol am bethau bob dydd fel goleuadau stryd ac ymddangosiad y
pentrefi.
Mae gan bentref Llandysul ganolfan
hamdden, pwll nofio, neuaddau, llyfrgell sy'n cynnig mynediad am ddim i'r
rhyngwyd, meysydd chwarae ayb a gwasanaethau eraill fel cyfreithwyr, banciau,
meddygfeydd, fferyllfeydd, milfeddygon,, gwerthwyr tai, gorsaf dân, gorsaf
heddlu ayb.
 |
 |
 |
 |
 |
| Yr
llyfrgell |
Neuadd
Tysul |
Brigad
tan |
Canolfan
hamdden |
canw |
Mae Llandysul yn dref fach ac mae
sawl pentref o’i chwmpas. Er ei bod mewn ardal wledig, ceir amrywiaeth o
siopau – teganau, dodrefn, trugareddau, siopau dillad, garejys, siopau
bwyd, siopau cig, siopau bara, tafarndai, gwestai, bwytai....
Yn ogystal, mae ffatri Waffles Tregroes ym Mhont-Tyweli. Mae’r
bisgedi Iseldiraidd hyn bellach yn enwog ar draws Cymru. Mae’r ffatri yn
cyflogi tua phymtheg o staff.
Mae swyddfa argraffu Gomer, sydd ar gyrion Llandysul, yn cyflogi tua
phedwardeg o bobl. Cafodd ei sefydlu gan John David Lewis (1859-1914) ac
mae’n enwog ar draws Cymru. Mae’n argraffu llawer o lyfrau Cymraeg a
Saesneg.

Gwasg
Gomer
Tregroes Waffles
Prosiect arall a ddatblygwyd yn
ddiweddar yn Llandysul yw’r ganolfan delynau Celtaidd, Telynau Teifi Cyf.
Mae Allan Shiers wedi bod yn gwneud telynau traddodiadol Celtaidd yng
Nghapel Dewi ers 30 mlynedd, ac yn gobeithio dysgu ei sgiliau i eraill yn y
ganolfan newydd lle bydd wyth o bobl leol yn cael eu cyflogi. Bydd y
ganolfan yn agor ym mis Mai 2005.
O ran
addysg, mae gan rai o bentrefi Llandysul a’r Fro eu hysgol gynradd eu
hunain, sy’n ysgol fach fel arfer, er enghraifft Capel Dewi (30 disgybl),
Pontsian (56 disgybl) a Tregroes (24 disgybl). Mae’r ysgol gynradd fwyaf
(tua 150 disgybl) ym mhentref Llandysul. Ar ôl gorffen yn yr ysgol gynradd,
gall y plant fynd i Dyffryn Teifi, yr ysgol uwchradd Gymraeg yn Llandysul,
neu Ysgol Emlyn, yr ysgol uwchradd Saesneg yng Nghastellnewydd Emlyn. Mae
tua 600 o blant yn yr ysgolion hyn.
|

|

|

|
Ysgol
gynradd Pont Sian |
Ysgol
gynradd Capel dewi |
Ysgol
gynradd Tregroes |
 |
 |
| Ysgol
gynradd Llandysul |
Ysgol
Dyffryn Teifi |
Mae
llawer o dwristiaid yn ymweld â Llandysul a’r fro. Mae’r rhan fwyaf
ohonynt yn dwristiaid o Brydain sy’n dod i Landysul i bysgota, i gan
io ac i gerdded yng nghefn gwlad ac ar lan y môr.
Mae Cei Newydd ac Aberaeron tua 14 milltir i ffwrdd. Mae nifer o westai a
llety gwely a brecwast ar eu cyfer.

Llangrannog
Llandysul
|