|
Ieithoedd
Celtaidd a siaradwyd gan y Celtiaid a ddaeth yn wreiddiol o ganol Asia
yw’r Gymraeg a’r Llydaweg.
Rhannwyd
y Celtiaid i lawer llwyth ond roeddynt yn siarad yr un iaith, sef hen
Geltaidd.
Mae’r unig gofnodion ysgrifenedig sy’n cyfeirio at y Celtiaid
yn deillio oddi wrth pobl eraill yn arbennig y Groegiaid a’r Rhufeiniaid.
Tua
1500 C.C., sefydlodd y Celtiaid yng Nghanol Ewrop. Roedd eu tiriogaeth yn
ymestyn o’r Rhein i’r Donwy tra roeddynt yn parhau i symud i orllewin
Ewrop.
Rhwng
800 a 700C.C., sefydlodd y Goedeliaid (a adnebyddir hefyd fel Gaeliaid) ym
Mhrydain ond tua 600 CC
gorfodwyd hwy gan y Prydeinwyr i symud i’r ynys a elwir erbyn hyn
yn Iwerddon.
Ymestynnodd
tiriogaeth y Celtiaid o Brydain i geg y Donwy ac i wastadedd y Po yn yr
Eidal ond symudwyd hwy i’r gorllewin gan ymosodiadau ac erbyn i Iŵl
Cesar
ddechrau ei orchfygiad o Gaul, rhwng 58 a 50 C.C., roedd y rhan fwyaf
o’r tiriogaeth i’r gorllewin o’r Rhein, yn Gaul a Phrydain.
Daeth
diwedd i’r gwrthsafiad Galaidd drwy iddynt gael eu gorchfygu yn Alesia
gan y Rhufeiniad, yn 50 C.C..
Tua 50 O.C., dechreuodd y Rhufeiniad orchfygu Prydain a sefydlont
yno am bedair canrif. Dylanwadodd y Lladin ar yr ieithoedd Brethoneg a
Galaidd a benthycwyd llawer o eiriau oddi wrthi. Roedd
yn arferiad gan y fyddin Rufeinig i rhoi tiroedd i gyn-filwyr wedi iddynt
gwblhau eu gwasanaeth. Mae’n debyg fod llawer o Brydeinwyr wedi sefydlu
yn Armorica (yr enw Rhufeinig am Lydaw).
|