|
Mae
Plogonnec yn bentref gwledig 54 cilomedr sgwâr sydd â 2806 o drigolion
(yn ôl cyfrifiad 1999). Mae wedi’i lleoli i’r de o ranbarth y
Finistère yng ngorllewin Llydaw rhwng Quimper (8 milltir) a Douarnenez
(6 milltir). Yr enw Llydewig ar y pentref yw Plogoneg, sy’n golygu
“plwyf (ploe) Sant Coneg” (neu Saint-Egonnec).
Mae
tair rhan i’r pentref: y canol, y Croëzou ar y ffordd i Quimper, a
Saint-Albin ar y ffordd i Quemeneven.
|

|

|

|
|
Canol
|
"Croëzou"
|
"St-Albin"
|
Mae
llawer o bobl yn gweithio yn y trefi cyfagos er bod well ganddynt fyw
yng nghefn gwlad ym Mhlogonnec. Fodd bynnag, nid yw Plogonnec yn dref
noswylio yn unig. Mae ynddi yr holl bethau sydd eu hangen ar gyfer bywyd
bob dydd. Mae’r siopau a’r gwasanaethau amrywiol yn caniatáu i
lawer o bobl weithio yno ac mae yna dair ysgol gynradd sydd, gyda’i
gilydd, yn derbyn 300 o ddisgyblion o’r dref a’r ardal.
Y
gwasanaethau :
Fel
ym mhob tref, y “mairie” (math o gyngor cymuned) yw cynrychiolwyr
lleol y Llywodraeth. Maent yn gyfrifol am gynllunio trefol, statws
dinesig a ffyrdd. Caiff cynghorwyr y dref eu hethol gan y boblogaeth am
6 blynedd ac maent yn gyfrifol am addysg, gwasanaethau cymdeithasol,
twristiaeth, chwaraeon, trafnidiaeth gyhoeddus, diwylliant ayb. Dyma’r
mairie sydd hefyd yn gyfrifol am bethau fel dŵr, goleuadau stryd ac
ymddangosiad y pentref.
Y "Mairie"
Mae
gan Blogonnec ganolfan hamdden, neuaddau, llyfrgell sy’n cynnig
mynediad i’r Rhyngrwyd, caeau chwarae ayb.
Mae
yna wasanaeth bws rhwng Plogonnec a Quimper, sydd o gymorth mawr i’r
bobl sydd heb gludiant (yn enwedig y bobl ifanc) am ei fod yn eu
galluogi i fod yn fwy annibynnol.
|

|

|

|
|
Llyfrgell
|
Neuadd
|
Canolfan
hamdden
|
Mae
meddygfa, deintyddfa, ffisiotherapydd, nyrsys, fferyllfa a nifer o
wasanaethau eraill fel cyfreithwyr, banciau a milfeddygon ayb ar gael yn
y pentref.
Masnach :
Nid
oes angen mynd i siopa yn y trefi cyfagos bob amser gan fod masnachwyr a
chrefftwyr Plogonnec yn darparu’r nwyddau sydd eu hangen ar gyfer
bywyd bob dydd a mwy. Mae archfarchnad, siop fara, siop gig, gwesty a
bwyty, caffi grempog, siop trin gwallt, tafarndai, siop ddillad, garejys,
siop amaethyddol gydweithredol, canolfan marchogaeth, siop drydan ayb ym
Mhlogonnec ers blynyddoedd.
Ysgolion :
(2003-2004)
Mae
tair ysgol gynradd ym Mhlogonnec: dwy ysgol wladol ac un ysgol breifat.
Mae
un ysgol wladol, Paul Gauguin, yng nghanol y pentref ac mae ganddi 150 o
ddisgyblion. Mae’r ysgol wladol arall yn Saint-Albin ac mae ganddi 36
o ddisgyblion. Dyma’r ysgol hynaf yn y pentref. Enw’r ysgol breifat
yw Saint-Egonnec. Mae’r ysgol hon hefyd yng nghanol Plogonnec ac mae
ganddi 100 o ddisgyblion. Mae’r tair ysgol ar agor 4 diwrnod yr
wythnos (nid yw’r ysgolion ar agor ar ddydd Mercher).
|

|

|

|
|
Ysgol
Paul Gauguin
|
Ysgol
yn St-Albin
|
Ysgol
St-Egonnec
|
Mae
Plogonnec yn le sy’n elwa ar harddwch a thawelwch cefn gwlad, ac mae
wedi’i lleoli tua 7 milltir o lan y môr Bae Douarnenez. Mae’r
nodweddion hyn yn denu llawer o dwristiaid a chânt gyfle i aros yn y
gwestai, y lletyau gwely a brecwast a’r mannau gorffwys yn y pentref.
Yn ogystal, mae stad newydd o dai yn cael ei hadeiladu yn agos at ganol
y dref ar ffordd Saint-Albin a fydd yn gyfle i bobl newydd, hen neu
ifanc, ymgartrefi yn y dref a’i wneud yn fwy deinamig.
 |
 |
| Canol
o Plogoneg |
La
baie de Douarnenez |
|