 |
 |
Dechreuad
Aelodau
|
|
Cyflawniad
y
Gefeillio
|
|
Gefeillio
Y
trefi sydd
wedi gefeillio
Y
Gymraeg- Llydaweg
Diwylliant
Cysylltiadau
Lluniau

|
Cafodd
y gefeillio rhwng Llandysul a Phlogonnec ei wneud yn swyddogol pan
arwyddwyd y Siarter ar yr 16eg o Orffennaf 1988 a’r 20fed o Awst 1989.
Codwyd arwyddion ar y prif ffyrdd wrth ddod i mewn i’r trefi, fel
symboliaeth o’r gefeillio, ym Mhlogonnec yn 1989 a Llandysul yn 1992.
Enwyd maes parcio di-enw ym Mhlogonnec yn ‘Sgwâr Llandysul’ yn ystod
seremoni arwyddo’r Siarter.

Cychwynodd
teithiau cyfnewid yr oedolion ym 1987 ac maent wedi parhau yn flynyddol. Y
dueddiad yn awr yw i bobl Plogonnec deithio i Landysul yn ystod penwythnos
y Dyrchafael ac i bobl Llandysul deithio i Blogonnec yn ystod adeg fest-noz
y pwyllgor gefeillio, ar y dydd Sadwrn olaf ym mis Awst, neu os nad bryd
hynny, yn ystod hanner tymor mis Hydref. Mae’r teithiau hyn yn digwydd
bob yn ail flwyddyn.
|
|
Mae
trefniadau’r ymweliadau wedi eu seilio ar thema bob tro, er enghraifft
datblygiad economaidd, yr amgylchedd, iaith, adeiladwaith Ewropeaidd, ayyb.
O ganlyniad, cafodd y teithwyr o Gymru gyfle i ymweld â fferm amaethyddol
fechan, fferm gaws, distyllfa, y farchnad bysgod yn Guilvinec, y ffatri
HENAFF, gardd fotaneg Brest, oll yn ardal Plogonnec, yn ogystal â chymryd
rhan mewn darlithoedd ac arddangosfeydd ar ieithoedd lleiafrifol, pobl
ifanc a chynnyrch Ewropeaidd a Llydewig.
|
Ffatri Hénaff-
2003 |
|
Cafodd
trigolion Plogonnec gyfle i ymweld â’r ganolfan egni adnewyddol ym
Machynlleth, y diwylliant Cymreig yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Llyfrgell
Genedlaethol Cymru, yr Ardd Fotaneg, gweithdy aur ac arian, y diwydiannau
yn Llandysul (ffatri Waffles Tregroes a’r argraffwyr a’r cyhoeddwyr
yng Ngwasg Gomer) ymysg ymweliadau eraill. Maent wedi mwynhau nifer o
ddarlithoedd ar bynciau megis datblygu cynaliadwy, rhaglenni arweinwyr,
Antur Teifi, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Cwmni Iaith Cyf hefyd.
|
Yr ardd fotaneg- 2000 |
|
Os
oes rhai pobl o’r trip cyntaf yn parhau i ymweld â’r efeilldref, mae
hyn oherwydd bod cysylltiadau go iawn wedi eu creu rhwng y ddwy dref a
rhwng teuluoedd. Dyma a ddenodd pobl newydd i ymuno â’r gefeillio. Ond,
yn fwy na dim arall, mae’r ‘cefndryd Celtaidd’ enwog yn ffrindiau,
sy’n hapus i gwrdd eto bob blwyddyn er mwyn cyfnewid a rhannu eu
diwylliannau ac, wrth gwrs, i gael hwyl!
|
|
Ers
y dechrau, un o flaenoriaethau’r pwyllgorau oedd cynnwys pobl ifanc yn y
gefeillio. Mor gynnar a mis Chwefror 1988, aeth 12 merch o Gymru draw i
Blogonnec am wythnos. Yn eu tro, fe groesawon nhw eu ffrindiau o Blogonnec
i Landysul ddeufis yn ddiweddarach. Mae’r cyfnewidiadau hyn rhwng pobl
ifanc wedi parhau yn y blynyddoedd wedi hynny. Mae ysgol cyfrwng Cymraeg
Llandysul hefyd ynghlwm â’r gefeillio wrth gynnig cyfle i’r myfyrwyr
sy’n astudio Ffrangeg dreulio cyfnod eu profiad gwaith mewn ysgolion a
siopau ym Mhlogonnec.
|
profiad gwaith 1995 |
|
Ym
1998 a 1999, trefnodd ULAMIR (yr Undeb lleol ar gyfer ysgogiad mewn ardal
wledig) a Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ar y cyd â’r pwyllgorau
gefeillio, wersylloedd ieuenctid ar gyfer pobl ifanc yn y ddwy dref.
Dysgodd y bobl ifanc weithio mewn tîm gyda phobl o wlad arall, tra’n
gwneud rhywbeth defnyddiol i’r gymuned ar yr un pryd. Ymysg y prosiectau
hyn roedd creu cylchffordd VTT (beiciau mynydd) ac adnewyddu maes chwarae
ym Mhlogonnec yn ogystal â datblygu llwybrau troed a meinciau yn
Llandysul. Wrth gwrs, rhoddodd y tripiau hynny gyfle iddynt ddarganfod eu
gefeilldref a chael hwyl!

gwersyll
gwaith ym Mhlogonnec-
1998
gwersyll
gwaith yn
Llandysul- 1999
|
|
Cafodd
tripiau ar gyfer pobl ifanc eu trefnu yn reit gyson ers hynny, ond roedd
angen mwy o amser er mwyn sefydlu teithiau cyfnewid ar gyfer plant iau (ysgolion
cynradd). Ym Mehefin 1991, aeth disgyblion o Landysul i ysgol gynradd ym
Mhlogonnec am rai dyddiau. Serch hynny, dim ond yn awr, 10 mlynedd yn
ddiweddarach, mae cyfnewidiad go iawn wedi dechrau. Aeth 26 o blant o
ysgolion cynradd Llandysul a Thregroes i Blogonnec ym Mehefin 2001, ac ym
mis Mai y flwyddyn ganlynol, darganfu 24 o ddisgyblion o ysgolion cynradd
St-Egonnec a Saint-Albin Llandysul am y tro cyntaf. Mae’r teithiau
cyfnewid bellach wedi eu sefydlu yn llawn ac aeth disgyblion o Landysul a
Thregroes i Blogonnec ym Mehefin 2003 a dychwelodd y disgyblion o
Blogonnec ym Mehefin 2004. |
ysgolion
cynradd o Landysul-
2001 ysgolion cynradd o Blogonnec -
2002

ysgolion
cynradd o Landysul-
2003 ysgolion cynradd o Blogonnec - 2004 |
|
Nid
ysgolion a disgyblion yw’r unig rai sydd â diddordeb yn y cyfleoedd a
gynigir gan y gefeillio. Mae chwaraeon ynghlwm hefyd. Ym mis Mai 1990,
arhosodd chwaraewyr pêl-droed ifanc o Landysul a oedd yn cymryd rhan yn y
‘Mondial Pupille’ yn Plomein gyda theuluoedd ym Mhlogonnec. Tua’r un
adeg, cymerodd tîm pêl-droed hŷn Plogonnec ran mewn twrnament yn
Llandysul. Dilynodd tîm arall ôl eu troed ym 1994 gan groesawu tîm o
Gymru yn ôl ym mis Awst 1995. Canlyniadau’r gemau: gobeithio am
fuddugoliaethau hapus yn y ddwy ran gyntaf a hyd yn oed gwell ar gyfer y
drydedd ran!
|
Chwaraewyr
pêl-droed o Gymru ac o Lydaw- 1995 |
|
Gwnaed
cam arall yn 2001, pan benderfynodd y pwyllgor gefeillio ym Mhlogonnec
greu swydd gan ddefnyddio’r cynllun Gwasanaeth Gwirfoddolwyr Ewropeaidd
(EVS). Arhosodd Rhydian Jones, a ddeuai’n wreiddiol o Gaerfyrddin yng
Nghymru, ym Mhlogonnec am ddeng mis. Roedd yn ymwneud â’r bywyd lleol,
siaradodd am Gymru wrth drigolion Plogonnec, a dysgodd y Gouren (reslo
Llydewig). Yn ystod y cynllun hwn, rhoddodd wersi Saesneg hefyd i blant
ysgol a gweithiodd gydag ULAMIR yng nghanolfan blant Guengat.
|

Gouren |
|
Yn
2003-2004, treuliodd Katell Pennaneac’h, a ddoi’n wreiddiol o
Blogonnec, ddeng mis yn Llandysul o dan y cynllun EVS. Amcan y cynllun
oedd creu gwe-fan (yr un yr ydych yn ymweld â hi yn awr). Er mwyn gwella
ei hymwybyddaieth o ddiwylliant, traddodiadau a ffordd o fyw Cymru, roedd
ynghlwm ag ysgolion cynradd Llandysul a’r Fro, Gwasanaeth Ieuenctid
Ceredigion a swyddfa Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen yn Llandysul. Dysgodd
siarad Cymraeg hefyd, gan ennill gradd A mewn arholiad Cymraeg
cenedlaethol.
|

Katell yn yr
Eisteddfod |
|
Yn
ystod y blynyddoedd hyn, er mwyn cynorthwyo’r cyfarfodydd ar y cyd,
sefydlodd y ddau bwllgor wersi dawns traddodiadol i bawb a gwersi iaith:
Saesneg a pheth Cymraeg ym Mhlogonnec a Ffrangeg a pheth Llydaweg yn
Llandysul. Er mwyn codi arian ar gyfer teithiau, fe drefnwyd gwahanol
ddigwyddiadau: bingo, ffeiriau sborion, noson crêpes, fest-noz,
cyngherddau, nosweithiau caws a gwin, cardiau cyfarch mewn pedair iaith,
ayyb.
Ers
1992, rhoddwyd grantiau Ewropeaidd tuag at deithiau cyfnewid yr oedolion.
Yn ogystal, mae pwyllgor Plogonnec yn manteisio o gymhorthdal tref
blynyddol ers iddo gael ei sefydlu. Mae Cyngor Cymuned Llandysul wedi
cefnogi’r gefeillio yn ariannol hefyd. Mae’r holl weithgarwch hwn yn
ychwanegu dimensiwn newydd i fywyd diwylliannol y trefi ac yn creu
cysylltiadau rhwng yr holl drigolion a rhai cymdeithasau. Daeth rhai
unigoilion i gwrdd â phobl newydd yn eu cymuned eu hunain yn ogystal â’r
efeilldref drwy’r gefeillio.
Holl
weithgareddau'r gefeillio

|
|