|
Dydd Sadwrn 18fed o
Fehefin
Roedd
y diwrnod mawr wedi cyrraedd o’r diwedd. Bu’n rhaid i holl blant
blwyddyn chwech ysgol gynradd Llandysul ddihuno yn gynnar iawn gan ein
bod yn mynd i Lydaw! Roedd yn daith hir, flinedig i ni y plant. Chwech
awr yn y bws i gyrraedd
Plymouth
a saith awr ar y
llong ac yna dwy awr o Roscoff i Ganolfan Mahalon lle roeddem yn aros!
Dyna gyfanswm o bymtheg awr o deithio mewn un diwrnod!!!!! Serch hynny,
roedd yn werth pob munud. Cyrhaeddom Mahalon tua canol nos a phawb wedi
blino’n lan.
Dydd
Sul 19eg o Fehefin
Wedi
cael brecwast ffrengig, neidiom i mewn i’r bws a bant a ni am Eglwys
Plogonnec. Buom yn canu yno. Roedd
y gwasanaeth yn wahanol iawn i Gymru, nid oeddwn yn deall gair ohono
chwaith!

Ar
ol canu roedd boliau pawb yn galw fel cloch yr eglwys felly aethom i
fferm Mr a Mrs Huw a Wenna Bevan Jones. Cawsom groeso bendigedig yno ac
roedd gwledd wedi ei baratoi ar ein cyfer. Roedd yno crepes siocled,
rhai caws a chig mochyn a sudd oren ac afal ffres.
Wedi
i ni lenwi’n boliau aethom i barc antur nad oedd yn bell o fferm Huw a
Wenna. Yn y parc roedd
llawer o blant eraill yno. Cawsom
hwyl yn mynd lawr y sleidiau igam ogam lliwgar a mynd ar goll yn y
“maze”.


Teithiom
yn ôl i Ganolfan Mahalon. Tra
buom yn disgwyl swper aethom i chwarae pêl droed a gêm mochyn yn y
canol. Cafwyd ciwcymber mewn
hufen salad i ddechrau, ac yna fel prif gwrs cawsom lasagne a salad ac i
orffen cafwyd bisgedi a saws afal. Roedd y swper yn flasus iawn. Cyn
mynd i gysgu’r noson honno, bu tipyn o siarad a symud o un ystafell
i’r llall er mwyn siarad gyda’n ffrindiau.
Dydd
Llun 20fed o Fehefin
Codom
am 7.30 yn y bore ac yna teithiom i ysgol St Egonnec yn Plogonnec.
Cafwyd croeso twymgalon gan ein ffrindiau, athrawon yr ysgol,
Jean Luc a Catell.

Yn
ystod yr bore buom yn chwarae bingo, coginio crepes, pancws bach, crymbl
afal a salad ffrwythau ffres. Caswom
ginio blasus eto gyda’n ffrindiau o Ffrainc, cawsom awr a hanner i
ginio!!

Gwahanol
iawn i Landysul! Yn y prynhawn aethom allan i’r cae i chwarae a
chymryd rhan mewn gemau potes.

Wedi
i’r ysgol orffen am 4.30 y prynhawn aethom i ymweld â phentref
prydferth Locronan. Aeth
rhai o’r plant i siopa am gardiau post ac eraill i fwyta hufen ia.

Teithiom
yn ôl i’r Ganolfan yn Mahalon i gael swper.
I ddechrau cafwyd tomatos ac
india
corn, cyw iar mewn
saws madarch a ffa ffrenig ac i bwdin cafwyd banana.
Aeth pawb i’r gwely yn gynnar y noson honno gan fod yr athrawon
heb gael llawer o gwsg y noson gynt oherwydd sŵn ni’r plant!!
Dydd
Mawrth 21ain o Fehefin
Codi
eto am 7.30 yr bore, brecwast ffrengig a bant a ni yn y bws am dref
Douarnenez. Ymweliad cyntaf
y dydd oedd amgueddfa cychod yn yr hen harbwr.
Cafwyd hanes yr amgueddfa a’r ardal...

...cyn
mynd allan i’r harbwr i ymweld â’r cychod o bob maint ac o bob cwr
o’r byd. Aeth Paul y gyrrwr bws a ni i ben arall o dref Douarnenez cyn
i ni gerdded tua milltir i lawr am bentref bach o’r enw Plomarc’h,
lle cafwyd amser i chwarae, clonc fach gyda’n ffrindiau
newydd heb anghofio bwyta ein picnic.
Wedi bwyta llond bol rhaid oedd cerdded i’r traeth.
Cafwyd amser ar y traeth i adeiladu cestyll tywod a golchi ein
traed chwyslyd yn y môr glas, oer.
Cyn
troi am adre aethon i siopa mewn archfarchnad i brynu bwyd gogyfer a
pharti canol nos (cyfrinach rhwng chi a ni yw hwn peidiwch dweud wrth yr
athrawon!!!.) Wedi siopa aethom nôl i’r ganolfan yn Mahalon i ymolchi
a gwisgo ein dillad gorau gan fod cyngerdd wedi ei drefnu ar ein cyfer.
Hannah oedd y ddynes trin gwallt a bu wrthi am hir yn brwsio,
plethu a chyrlio gwallt pawb. Chwarae teg mae’n dilyn ôl traed ei
mhodryb!
Aethom
nôl i neuadd ym Mlogonnec er mwyn cyfarfod gyda’n ffrindiau a chael
gwledd arall i fwyta. Bu
plant Ysgol St Egonnec yn perfformio eitem gerddorol a buom ni yn canu.
Mrs Dafydd oedd yn ein harwain. Bu rhai ohonom yn crio wrth i ni
adael ein ffrindiau.

Wedi
i ni gyrraedd nôl yn Mahalon aeth pawb am y gwely, wel dyna beth oedd
yr athrawon yn ei feddwl, ond cafwyd parti canol nos i ddathlu penblwydd
Ceris. Roedd Stacey wedi
gwisgo lan fel ffermwr dwl! Wel
dyna hwyl a gawsom!
Dydd
Mercher 22 o Fehefin
Codi
am 8 y bore brecwast ffrengig am y tro olaf. Daeth Jean Luc gyda ni i
Quimper
i siopa mewn
archfarchnad anferthol. Bum
yn prynu anrhegion i’r teulu yno, roedd popeth yn edrych mor wahanol.
Teithiom yn ôl i’r ganolfan ym Mahalon
i gael cinio. I ddechrau cafwyd cous cous ac yna porc mewn saws pinafal
a pys ac yna hufen iâ i bwdin. Ymunodd Catell a ni gogyfer a’r daith
lawr i Haliotika i ymweld ag amgueddfa bysgod enfawr. Cawsom gyfle i
fynd o amgylch yr harbwr lle roedd y llongau yn dod a’r pysgod i mewn
ac hefyd aethom i mewn i’r ocsiwn bysgod. Roedd un pysgotwr wedi dala
siarc!

Yna
rhaid oedd dywchwelyd i’r ganolfan i ddechrau pacio ein bagiau a chael
swper. Wedi swper rhaid oedd
mynd i’r gwely yn gynnar gan ein bod yn codi’n gynnar.
Cafwyd cystadleuaeth brwd rhwng ystafelloedd.
Roedd yr ystafelloedd yn daclus iawn meddai’r athrawon.
Daniel a Niall oedd yn fuddugol.
Dydd
Iau 23ain o Fehefin
Clywed
swn - 4.45 y bore - felly roedd rhaid codi, ymolchi ac yna gorffen pacio
ein bagiau ac yna mynd yn syth ar y bws.
Teithio ar y bws a phawb yn cysgu.
Cafwyd brecwast ar y bws. Cyrraedd
St Malo a phawb wedi blino’n lan.
Buom ar y llong am wyth awr, yn gwylio fideo a chafwyd cinio
hyfryd - sglodion wel dyna
beth oedd blasus. Cyrraedd
Portsmonth am 7 yr hwyr ac yna teithio ar y bws am adref a phawb wedi
blino a rhai yn chwyrnu! Roedd pawb yn hapus iawn pan gyrhaeddon nôl yn
Llandysul am hanner nos ac roedd ein rhieni yn weddol falch o’n gweld
hefyd. Cawsom amser bendigedig yn Llydaw a diolch yn fawr i’r athrawon
am edrych ar ein holau a bod yn dipyn o sbort.
Emily
Evans ac Elain Ainsworth
|