Taith 

chwaraewrau pêll-droed Llangrannog

 e Plogoneg

26 - 30 mis Mai 2005 

 

Roedd y tywydd yn braf pan gyrhaeddodd 21 o Gymry (15 chwaraewr peldroed, 5 cefnogwr a’rgyrrwr bws) ar ddydd Gwener 26ain o Fai yn Quimper . Yn ystod y dydd aethon nhw i  grwydro’r dref (neu i gyscu… yn barod ???) neu tynnu lluniau cyn ciniawa gyda phwyllgor y gefeillio gyda’r nos ym mwyty Hotell du Nevet ym Mhlogoneg.  Ar ôl pryd da o fwyd parhaodd y noson ym mar Le Baladin.

 Ar y dydd Sadwrn aethon nhw i’r traeth. Gan nad oedden nhw’n ddigon dewr ( na dwl) i  fynd i nofio, fuon nhw’n loncian ac yn hyfforddi.  Wedyn, buon nhw’n cerdded strydoedd Douarnenez cyn dychwelyd i Blogoneg am bump o’r gloch i chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn tîm peldroed Plogoneg, sef “Les Ecureuils” (y Wiwerod).

foot jumelage1.jpg (64735 bytes)      match1-1.jpg (37306 bytes)      match1-2.jpg (40710 bytes)

 

Er bod ganddynt gefnogaeth, collodd y Cymry o 2-0. Ond nid oedd hi’n ddiwedd y byd achos enillodd yr arbennigwyr peldroed y gystadleuaeth rhagweld.  Ar ôl peth cwrw, cafwyd bwffe a oedd wedi ei ddarparu gan bwyllgor y gefeillio.

buffet1.jpg (33774 bytes)     buffet2.jpg (34083 bytes)     buffet4.jpg (32277 bytes)

buffet5.jpg (31643 bytes)     buffet3.jpg (35097 bytes)

 

 Cyflwynwyd tarian i bob tîm. 

trophée1.jpg (34017 bytes)     trophée2.jpg (28967 bytes)

 

Rhoddwyd wobrau hefyd i enillwyr y gystadleuaeth (ymysg nhw un chwaraewr o Gymru… « realism » neu diffyg hyder ?).  Wedi mwynhau pryd bwyd mewn awyrgylch braf, yfwyd rhagor o gwrw gan Delphine and Johann o’r Baladin mewn gwydrau a oedd wedi cael eu archebu’n arbennig ar gyfer yr achlysur.

Ar Ddydd Sul, ar ôl ymweld â Locronan, roedd y Cymry yn barod (???) i chwarae eto yn erbyn “Gwiwerod Plogoneg”.

groupe.jpg (51623 bytes)     match2-1.jpg (28152 bytes)     match2-2.jpg (30578 bytes)     match2-3.jpg (31995 bytes)

match2-6.jpg (26519 bytes)     match2-7.jpg (31286 bytes)     match2-8.jpg (32973 bytes)

match2-10.jpg (27734 bytes)     match2-11.jpg (31499 bytes)     match2-12.jpg (27293 bytes)     match2-13.jpg (24504 bytes)     match2-14.jpg (22623 bytes)

arbitre touche 1.jpg (21844 bytes)     arbitre touche 2.jpg (19748 bytes)

 

 Yn anffodus iddyn nhw, ni lwyddon nhw i ennill a chollwyd y gêm 2-1, a hynny er i Mickaël Bolou ddod i’r tîm yn lle Aled a oedd wedi cael niwed rhai munudau cyn i’r gêm gychwyn.

aled.jpg (24529 bytes)

 

Ar ôl stop yn y Baladin...

baladin 1.jpg (23898 bytes)     baladin 3.jpg (27070 bytes)     billard.jpg (24261 bytes)     baladin 7.jpg (26632 bytes)

baladin 4.jpg (23317 bytes)     baladin 5.jpg (23401 bytes)     gary.jpg (28774 bytes)

Cynigodd y “wiwerod” farbiciw yn Lopeau i fwydo’r holl bobl newynog. Ar ôl pryd bwyd da arall, cyhoeddwyd canlyniadau’r ail gystadleuaeth rhagweld a’r gystadleuaeth y thong pertaf (da iawn Richard!).

Aeth y chwaraewyr yn y bws mini i orffen y noson yn y Baladin, ble cyfnewidwyd anrhegion.

 

groupe 2.jpg (42914 bytes)     Richard.jpg (23515 bytes)

 

Roedd y bws wedi gyrru y chwaraerau yn ôl i’r Baladin i gario ymlaen y nos. Ro’n anrhegau wedi bod cyfnewid yna.

cadeaux baladin.jpg (22668 bytes)     baladin 2.jpg (19250 bytes)

 

Aeth pawb (ond y rhai a oedd wedi eu hanafu a’r bechgyn a oedd yn rhy flinedig) wedyn i’r clwb nos o’r enw y Moulin.

 Ar ôl noson arall, pan na chafwyd digon o gwsg, a siopa ychydig dyma nhw yn gadael prynhawn Dydd Llun, yn fodlon gyda’r daith ond yn flinedig iawn....

 

Roedd holl awyrgylch y daith yn un hyfryd. Roedd y cyfeillgarwch, sydd yn nodweddiadol o’r gefeillio, i’w deimlo yn ystod y penwythnos.  Roedd y Cymry yn fodlon gyda’r croeso ac roedd pobl Plogoneg yn falch iawn i’w croesawu yn eu ffordd syml a chroesawgar.

baladin 6.jpg (32564 bytes)

 Roedd pawb yn fodlon gyda’r penwythnos. Ond roedd hi’n drueni na welwyd chwarewyr Plogoneg yn y gweithgareddau gyda’r nos. Ond mae’r chwaraewyr Cymraeg yn disgwyl ymlaen yn eiddgar i’w croesawu i Langrannog yn 2006.

 

Sgorwyr am y penwythnos:

Dydd Sadwrn: Nicolas Bozec a Pricilien Faveaux

Dydd Sul: Florian Coustan i Blogonnec a Chris Pulman i Langrannog. (neu Gari Pwyll i rhai... ;-) ) i’r tîm o Gymru.

 

Rhai Diolchiadau:

  I berchnogion siopau Plogoneg a Quimper a rhoddodd llawer o wobrau a wnaeth hi’n bosibl i gynnal cystadleuaeth rhagweld ar gyfer pob gêm.

  I Delphine a Johann o’r Baladin am estyn croeso gwych i’r Cymry ac am edrych ar eu holau gyda’r nos.

  I Annick a Jean-Pierre Bolou am edrych ar eu holau yn ystod y dydd.

  I bawb am eu presenoldeb ac i’r rhai a ddaeth i gefnogi’r chwaraewyr ac i drefnu’r prydiau bwyd.

spectateur 1.jpg (28544 bytes)     spectateur 2.jpg (30019 bytes)     spectateur 3.jpg (35060 bytes)

 

Rhyw sylwadau:

Johann, y dyfarnwr, yn ystod yr ail gêm:          Johann.jpg (32499 bytes)

Roedd ysbryd pawb yn dda yn ystod y gemau. Roedd pawb yn gyfeillgar, er fod y Cymry yn chwarae gwell peldroed. Roedden nhw’n synnu clywed fi’n eu chwythu i fyny; dyw’r dyfarnwr ddim mor llym yng Nghymru.

 

Ian ap-Dewi, Cadeirydd Clwb Peldroed Llangrannog           ian.jpg (31289 bytes)

Ni wir yn gwerthfawrogi’r daith er na enillon ni. Dylai’r Cymry fod wedi sgorio mwy ond roedden nhw wedi blino’n arw!  Roedd y croeso yn wych. Mae’r adnoddau yn wych yn Plogoneg.  Ni’n gobeithio croesawu tîm Plogoneg yn 2006 pan fydd ein chwaraewyr gorau, a methodd ddod i Plogonnec, yn chwarae gyda ni. J  

“Gwiwerod” Plogoneg:          match2-4.jpg (29910 bytes)

Roedd e’n wych, dylid gwneud hyn yn amlach. Roeddem yn hapus i chwarae a ni’n barod i fynd draw i Gymru. Roedd  tîm Plogoneg yn well yn dactegol ond nid yn gorfforol. Yn yr ail gêm ar y Dydd Sadwrn ni chwaraeodd hanner y tîm.

Chwaraewyr Llangrannog:          match2-5.jpg (34799 bytes)

 Ni’n hapus iawn, ni wedi cael hwyl ond ni wedi blino! Falle mae’r cwrw oedd e... ;-). Mae’r adnoddau llawer yn well yn Plogoneg. Mae’n wahanol chwarae fan hyn, dydy ni ddim yn gyfarwydd â dyfarnwr sydd mor llym. Ond roedd popeth yn wych. Ni’n barod i ddod nôl ond mae’n drueni nad yw’r ddau dîm yn cyfnewid yn amlach. Roedd y croeso a’r bwyd, cwrw a’r gwin yn wych! Ni i gyd yn ffrindiau a daethom ar wyliau gyda’n gilydd.

Sylwadau personol Aled (a anafwyd): 

Mae’r gwasanaethau iechyd yn Llydaw yn effeithiol iawn!

Gyrrwr y bws:

Mae’n nhw’n fechgyn da ac yn eithaf tawel ar y bws. Mae’n amlwg eu bod nhw’n ffrindiau da.  Mae nhw’n gyfeillgar iawn.

Pwyllgor Gefeillio Plogoneg:

Roedd awyrgylch dda yma drwy’r penwythnos. Roedd popeth yn braf.  Serch hynny, roedd hi’n drueni mai dim ond  swyddogion y clwb peldroed oedd yn y gweithgareddau gyda’r nos a nid y chwaraewyr eu hunain.  Ni’n barod am 2006.

Swyddogion clwb peldroed Plogoneg:

Chwaraewyd y gemau mewn awyrgylch hyfryd.  Roedd safon y ddau dîm yn debyg. Enillodd Plogoneg ddwy waith, ond gallai Llangrannog fod wedi ennill. Trueni na welwyd chwaraewyr Plogoneg yn y gweithgareddau gyda’r nos ond mae nhw a ni yn barod i fynd draw i Gymru.  Y cyfan sydd eisiau yw dyddiad.

 

Dewch nawr fechgyn, roeddech chi wedi blino, medde chi. Cymrwch gwsg fach a gwelwn chi cyn bo hir yn Llangrannog yn 2006!

 Pob hwyl ! Kenavo !

 

                                      Cymraeg                      Brezhoneg                     English                       Français